Somaliland
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
| Arwyddair: لا إله إلا الله محمد رسول الله (Arabeg) Lā ilāhā illā-llāhu; muhammadun rasūlu-llāhi "Nid oes Duw ond Duw a Mohamed yw Negesydd Duw" a hefyd: Justice, Peace, Freedom, Democracy and Success for All |
|||||
| Anthem: Saamo ku waar | |||||
| Prifddinas | Hargeisa | ||||
| Dinas fwyaf | Hargeisa | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Somaleg, Arabeg a Saesneg | ||||
| Llywodraeth | Democratiaeth gynrychiadol | ||||
| - Arlywydd | Ahmed M. Mahamoud Silanyo |
||||
| - Is-arlywydd | Abdirahman Saylici |
||||
| Annibyniaeth - Datganwyd - Cydnabuwyd |
ar Somalia 18 Mai 1991 ni chydnabyddir |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
137,600 km² (*) dibwys |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2004 - Dwysedd |
tua 3,500,000 (*) tua 25/km² (*) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2008 * (*) * (*) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (*) | * (*) – * | ||||
| Arian cyfred | Swllt Somaliland (SLSH) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
EAT (UTC+3) (UTC+3) |
||||
| Côd ISO y wlad | dim | ||||
| Côd ffôn | +252 |
||||
Gweriniaeth yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Somaliland. Cyhoeddodd ei hannibyniaeth ar Somalia ym 1991 ond ni chydnabyddir Somaliland gan unrhyw wlad arall. Mae'n hawlio tiriogaeth gyfan Somaliland Brydeinig, protectoriaeth y Deyrnas Unedig tan 1960.
Mae Somaliland yn ffinio ag Ethiopia i'r de a gorllewin, Djibouti i'r gogledd-orllewin, Gwlff Aden i'r gogledd a Puntland, rhanbarth hunan-lywodraethol Somalia, i'r dwyrain. Hargeisa yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Mae'r mwyafrif o'r tua 10,000 o Somaliaid yng Nghymru (8,000 ohonynt yn byw yng Nghaerdydd) yn tarddu o Somaliland ac mae cysylltiadau rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywodraeth Somaliland.