Hargeisa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mosg canolog Hargeisa

Dinas yn Somalia a phriddinas Somaliland, gwladwriaeth annibynnol de facto a grëwyd yn 1991, yw Hargeisa (Somaleg: Hargeysa). Bu hefyd yn brifddinas drefedigaethol y Somaliland Brydeinig o 1941 hyd 1960 pan unodd â'r De i ffurfio Gweriniaeth Somali. Hargeisa yw'r ddinas fwyaf yn Somaliland a'r ail fwyaf yn Somalia gyfan ar ôl Mogadishu. Gorwedd yn y bryniau tua 120 km o arfordir Gwlff Aden, yn agos i'r ffin ag Ethiopia. Mae ganddi boblogaeth o tua 450,000.

Dolen allanol[golygu]

Flag of Somalia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Somalia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.