Vereenigde Oost-Indische Compagnie

Oddi ar Wicipedia
Vereenigde Oost-Indische Compagnie
Enghraifft o'r canlynolbusnes, chartered company, menter, East India Company Edit this on Wikidata
Daeth i ben1799 Edit this on Wikidata
Label brodorolVerenigde Oostindische Compagnie Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1602 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTasik Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifInternational Institute of Social History Edit this on Wikidata
RhagflaenyddUnited Amsterdam Company, Compagnie van De Moucheron, Delftse Vennootschap, Verenigde Zeeuwse Compagnie Edit this on Wikidata
Isgwmni/auDutch West India Company Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyhoeddus Edit this on Wikidata
PencadlysOost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis, Oost-Indisch Huis Edit this on Wikidata
Enw brodorolVerenigde Oostindische Compagnie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo'r VOC

Cwmni o'r Iseldiroedd oedd y Vereenigde Oost-Indische Compagnie neu VOC (Iseldireg, yn golygu "Cwmni Unedig India'r Dwyrain"), a adnabyddir hefyd fel "Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain." Bu'r cwmni yn llwyddiannus iawn, ac ystyrir ef fel cwmni rhyngwladol cyntaf y byd.

Sefydlwyd y cwmni yn 1602 gan Johan van Oldenbarnevelt, i fanteisio ar y cyfleoedd oedd wedi ymddangos i fasnachu yn India'r Dwyrain, yn arbennig yr ynysoedd sy'n awr yn ffurfio Indonesia. Roedd chwech kamer, yn Amsterdam, Zeeland, Enkhuizen, Delft, Hoorn a Rotterdam. Rheolid y cwmni gan gynrychiolwyr o'r rhain, oedd yn ffurfio'r bwrdd llywodraethol, yr Heeren XVII, yn cyfarfod yn Amsterdam a Middelburg bob yn ail.

Yn ystod y 17eg ganrif, tyfodd y VOC i gyflogi 11,000 o bobl. Erbyn 1753 roedd yn cyflogi 25,000. Roedd yn cyflogi milwyr, a llwyddodd i yrru'r Portiwgeaid o Sri Lanca ac ynysoedd Indonesia. Ar ynys Jafa yr oedd canolfan y cwmni; yno y sefydlwyd dinas Batavia (Jakarta heddiw). Daeth y cwmni i ben yn 1798.

Roedd Abel Tasman yn gweithio i'r cwmni ar ei fordaith yn 1642 pan ddarganfu Tasmania a Seland Newydd.

Yr Amsterdam, un o longau'r VOC, wedi ei hail-greu yn yr Amgueddfa Forol Genedlaethol yn Amsterdam
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: