Brenhinllin Ming

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
China yng nghyfnod Ymerawdwr Yongle

Brenhinllin Ming oedd y frenhinllin fu'n rheoli China o 1368 hyd 1644, yn dilyn cwymp Brenhinllin Yuan, oedd o dras Mongolaidd. Roedd Brenhinllin Ming yn frenhinllin Sineaidd ethnig neu Han, y frenhinllin Han olaf yn hanes China. Dinistriwyd y frenhinllin gan wrthryfel dan arweiniad Li Zicheng, a chymerwyd ei lle gan Brenhinllin Qing, o dras Manchu. Cipiwyd prifddinas y Ming, Beijing, yn 1644, ond parhaodd rhan o'r Ming mewn grym yn ne China hyd 1662.

Daeth China yn rym mawr yn y cyfnod Ming, gyda byddin sefydlog o 1,000,000 o filwyr. Gwelodd y cyfnod hefyd fordeithiau gan lynges dan arweiniad Zheng He yn y 15fed ganrif i sawl rhan o'r byd.


Chinesecoin.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill