Yr Eglwys Goptaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o gyfieithiad Copteg o Efengyl Luc (8fed ganrif)

Yr Eglwys Goptaidd yw eglwys fwyaf yr Aifft. Gelwir aelodau'r eglwys yn Goptiaid; maent yn olrhain hanes eu heglwys i genhadaeth Sant Marc. Copteg yw iaith liturgïaidd yr eglwys.

Yr Eglwys Goptaidd yw un o'r rhai hynaf sy'n bodoli. Dichon iddi gael ei sefydlu yn yr ail ganrif yng ngogledd yr Aifft. Un o seiliau ei chred yw Monoffisiaeth, sy'n groes i ddysgeidiaeth yr eglwys orllewinol a'r Eglwys Uniongred fel ei gilydd. Oherwydd eu glyniad wrth Monoffisiaeth condemniwyd y Coptiaid gan Cyngor Chalcedon yn y flwyddyn 451 ac o hynny allan mae eu heglwys wedi bod yn ynysig yn y byd Cristnogol.

Ychwanegwyd at yr agendor gan oresgyniad yr Aifft gan y Mwslemiaid yn 642, a ddaeth â newidiadau cymdeithasol a diwylliannol mawr yn ei sgîl. Dioddefodd yr Eglwys Goptaidd rywfaint o erledigaeth ond ar y cyfan llwyddodd i oroesi heb orfod ildio llawer, fel yn achos sawl eglwys Gristnogol arall yn y Dwyrain Canol yn y cyfnod Mwslemaidd.

Mae dinas Alecsandria wedi chwarae rhan ganolog yn hanes yr eglwys o'r cychwyn cyntaf a hyd heddiw mae sedd y patriarch Coptaidd yno. Mae'r Coptiaid mewn cymundeb â'r eglwysi Armeniaidd, eglwys genedlaethol Armenia, a'r eglwysi Uniongred Syriaidd. Yn 1741 ymunodd rhai o'r Coptiaid yn yr Eglwys Gatholig fel yr Eglwys Goptaidd Uniad.

Pab cyfredol yr Eglwys yw Tawadros II.

Darllen pellach[golygu]