Y Frawdoliaeth Fwslimaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arwyddlun y Frawdoliaeth Fwslimaidd

Mudiad Islamiaeth hyna'r byd yw'r Frawdoliaeth Fwslimaidd (Arabeg: الإخوان المسلمون ) sy'n gweithredu fel plaid wleidyddol yn yr Aifft a nifer o wledydd eraill.[1] Sefydlwyd ym 1928 yn yr Aifft gan yr ysgolhaig Hassan al-Banna. Ei harwyddair enwocaf yw "Islam yw'r ateb".

Mae'r Frawdoliaeth o blaid gweithredu'r gyfraith Islamaidd, sharia, yn yr Aifft.[2] Cafodd Mohamed Morsi, arweinydd Plaid Rhyddid a Chyfiawnder, cangen wleidyddol y Frawdoliaeth yn yr Aifft, ei ethol yn arlywydd y wlad honno ar 30 Mehefin 2012: cafodd ei ddisodli mewn coup d'état ar 3 Gorffennaf 2013.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Muslim Brotherhood in flux 21 Tachwedd 2010 aljazeera
  2. (Saesneg) Profile: Egypt's Muslim Brotherhood. BBC (9 Chwefror 2011). Adalwyd ar 28 Chwefror 2012.
  3. 'Lluoedd yr Aifft yn disodli Morsi', Golwg360, Gorffenaf 4, 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Egypt.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.