Memphis (Yr Aifft)

Oddi ar Wicipedia
Memphis
Mathdinas hynafol, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMemphis and its Necropolis – the Pyramid Fields from Giza to Dahshur Edit this on Wikidata
SirGiza Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Aifft Yr Aifft
Arwynebedd155.16 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau29.85412°N 31.25934°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Arysgrif hieroglyffig ym Memphis, gyda cherflun o Ramses II yn y cefndir

Dinas Memphis (Μέμφις) oedd prifddinas yr Hen Aifft yng ngyfnod yr Hen Deyrnas, o gyfnod ei sefydlu hyd tua 2200 CC, ac am gyfnodau byr yn ddiweddarach. Saif 20 km i'r de o Cairo, ar lan orllewinol Afon Nîl,

Groeg yw'r enw "Memphis"; yr enw Eiffteg oedd Ineb Hedj ("Y Muriau Gwynion"). Saif dinasoedd a threfi modern Mit Rahina, Dahshur, Saqqara, Abusir, Abu Gorab a Zawyet el'Aryan, i'r de o ddinas Cairo, o fewn ffiniau gweinyddol hen ddinas Memphis. Yn ôl Herodotus, sefydlwyd y ddinas tua 3100 CC gan y brenin Menes, a unodd ddwy deyrnas yr Aifft.

Cyrhaeddodd Memphis uchelbwynt yng nghyfnod y 6ed Brenhinllin, fel canolfan i gwlt y duw Ptah. Hyd yn oed wedi sefydlu Alexandria, parhaodd yn ail ddinas yr Aifft hyd nes i Fustat gael ei sefydlu yn 641. Gadawyd y ddinas i adfeilio yn fuan wedyn.

Enwyd nifer o ddinasoedd a threfi mewn gwahanol wledydd ar ôl y Memphis wreiddiol; y fwyaf adnabyddus yw Memphis, Tennessee.