Ashkelon

Oddi ar Wicipedia
Ashkelon
Mathdinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth134,454 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Côte-Saint-Luc, Xinyang, Iquique, Aix-en-Provence, Vani, Kutaisi, Aviano, Pankow, Sopot, Entebbe, Portland, Baltimore, Maryland, Sacramento Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAshkelon Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd48 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.6658°N 34.5664°E Edit this on Wikidata
Cod post78*** Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Ashkelon Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Ashkelon (gwahaniaethu).

Dinas ar arfordir y Môr Canoldir yn ne Israel yw Ashkelon (Hebraeg: אַשְׁקְלוֹן‎ Ashkelon; Arabeg: ٲشكلون‎, hefyd عسقلان Ar 'Asqalān; Lladin: Ascalon; Acadeg: Isqalluna). Sefydlwyd porthladd Ashkelon (Ascalon) yn Oes yr Efydd.

Yn nghwrs ei hanes hir mae Ashkelon wedi cael ei rheoli gan y Canaaniaid, y Philistiaid, y Babiloniaid, y Ffeniciaid, y Rhufeiniaid, y Mwslwmiaid a'r Croesgadwyr. Cafodd ei dinistrio gan y Mamlukiaid ar ddiwedd y 13g. Yn Rhyfel Israel a'r gwledydd Arabaidd 1948, roedd pentref Arabaidd Majdal ger Ashkelon yn un o wersylloedd blaen byddin yr Aifft yn Llain Gaza. Meddianwyd y pentref hwnnw gan yr Israeliaid ar 5 Tachwedd, 1948 a ffoes nifer o'r Arabiaid lleol i Gaza gyda'r fyddin Eifftaidd. Dychwelodd tua 2,000 i'w hen gartrefi ond cawsont eu gorfodi i adael gan yr Israeliaid yn 1950 i wneud lle am ymsefydlwyr Iddewig. Sefydlwyd y ddinas Israelaidd bresennol yn Ashkelon yn 1950. Erbyn heddiw mae 108,900 o bobl yn byw yno.

Am fod y ddinas yn agos i'r ffin â Llain Gaza mae wedi cael ei thrawo o bryd i'w gilydd gan rocedi Hamas yn rhan olaf 2008 yn y gwrthdaro a arweiniodd at Ymgyrch fomio Llain Gaza Rhagfyr 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]