Hamas
Mudiad Palesteiniaid Islamaidd Sunni yw Hamas (llythrennol: "Brwdfrydedd"). Mae'r enw'n tarddu o'r blaen-lythrennau حركة المقاومة الاسلامية, sef Ḥarakat al-Muqawama al-Islamiyya "Y Mudiad Gwrthsafiad Islamaidd"). Gan y mudiad democrataidd hwn mae mwyafrif y seddau ar gyngor Awdurdod Cenedlaethol Palesteina,[1] ac sydd felly'n llywodraethu'r Llain Gaza. Fe'u hetholwyd yn Ionawr 2006. Mae Israel, yr Unol Daleithiau[2] Canada,[3] yr Undeb Ewropeaidd,[4] a Japan yn disgrifio Hamas fel mudiad terfysgol,[5] ond mae Rwsia, Twrci[6] y gwledydd Arabaidd, Iran ac eraill yn gwrthod gwneud hynny.[7]. Mae Awstralia [8] a'r DU [9] yn nodi mai dim ond adain filwrol Hamas, sy'n fudiad terfysgol.
Sefydlwyd Hamas yn 1987 gan Ahmed Yassin a Mohammad Taha ar gychwyn yr Intifada Cyntaf ar y Lan Orllewinol. Mae Hamas yn tarddu o'r anfodlonrwydd ag arweinyddiaeth y PLO yn y cyfnod hwnnw. Tyfodd o'r mudiad Mujama, plaid wleidyddol a gefnogwyd gan Israel ar y dechrau fel gwrthbwys i'r PLO. Daeth Hamas i rym yn Ionawr 2006 gan ennill mwyafrif y gynrycholiaeth ar Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a threchu'r PLO a Fatah.
Mae'r mudiad yn enwog am hunan-fomio (neu yn Saesneg: suicide bombing).[10] ar Israel. Mae hefyd yn gwneud gwaith cymdeithasol pwysig gan sefydlu a rhedeg ysbytai, llyfrgelloedd ac ysgolion [11] drwy'r Lan Orllewinol a Llain Gaza, lle mae'n rheoli. Caiff y bai gan Israel am saethu rocedi atynt, ac er mwyn dileu pwer Hamas y lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009 ar y 27 Rhagfyr, 2008.
Mae Siarter Hamas[12] yn galw am ddatgymalu Gwladwriaeth Israel, gan sefydlu gwladwriaeth Islamaidd newydd ar y Tiriogaethau Palesteinaidd[13]
Mae gan y mudiad ei sianel deledu ei hun, Al-Aqsa TV, sy'n darlledu o ddinas Gaza.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Hamas sweeps to election victory", BBC News.
- ↑ "Country reports on terrorism 2005", United States Department of State. Office of the Coordinator for Counterterrorism. US Dept. of State Publication 11324. Ebrill 2006. tud 196
- ↑ "Currently listed entities". Department of Public Safety and Emergency Preparedness. November 22, 2012. http://www.publicsafety.gc.ca/prg/ns/le/cle-eng.aspx.
- ↑ "EU blacklists Hamas political wing". BBC News. Medi 11, 2003. http://news.bbc.co.uk/2/hi/middle_east/3100518.stm.
- ↑ If HAMAS is a Terrorist Organization, What Does That Make Israel? Intifada: The Voice of Palestine. 11 Gorffennaf 2010
- ↑ Gaza flotilla: Turkey threat to Israel ties over raid BBC News. 4 Mehefin, 2010
- ↑ How to Confront Russia's Anti-American Foreign Policy The Heritage Foundation. June 27, 2007
- ↑ Gwefan Llywodraeth Awstralia
- ↑ Gwefan y Llywodraeth Brydeinig
- ↑ (James L. Gelvin, The Israel-Palestine Conflict: One Hundred Years of War, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2005, t. 221 ISBN 0521852897)
- ↑ "Palestinian election raises varying opinions within U". The Minnesota Daily. January 31, 2006
- ↑ Siarter Hamas
- ↑ Israeli Official Says Hamas Has Made Abbas Irrelevant. The New York Times, February 27, 2006.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Siarter Hamas ar wefan mideastweb.org