Hugh Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb Hugh Davies yn Eglwys Biwmares

Roedd Hugh Davies (3 Ebrill 173916 Chwefror 1821) yn fotanegwr ac yn offeiriad Eglwys Lloegr. Brodor o Ynys Môn oedd o, ac yn awdur y llyfr Welsh Botanology, y llyfr gwyddonol cyntaf i restru enwau Cymraeg am blanhigion ag y rhai Lladin.

Bywyd[golygu]

Cafodd ei eni yn Llandyfrydog, Ynys Môn, Cymru, ac yr oedd ei dad yn rheithor Eglwys Tyfrydog, Llandyfrydog. Cafodd ei addysgu yn Ysgol David Hughes ym Meaumaris. Aeth ymlaen i Goleg yr Iesu yn Rhydychen fel ei dad o'i flaen. Graddiodd ym 1757 a daeth yn offeiriad. Wedi ei ordeinio, aeth yn gurad Llangefni (1763–1766), Llanfaes, Penmon (1766–1785) a Phenmynydd (1775–1778). Wedyn yn rheithor Llandegfan a Beaumaris ym 1778, ac wedyn yn rheithor Aber, Sir Gaernarfon ym 1787. Bu farw ym Meaumaris ym 1821 lle y'i claddwyd.

Botaneg[golygu]

Roedd Hugh Davies yn gyfaill Thomas Pennant ac anfonodd sbesimenau a nodiadau. Aeth i Ynys Manaw ym 1774 gyda Pennant, a dychwelodd i Fanaw y flwyddyn wedyn i astudio planhigion yr ynys. Cyfrannodd yn helaeth i lyfrau Pennant (British Zoology, Indian Zoology a Journey to Snowdon). Cyfrannodd hefyd i lyfr William Hudson Flora Anglica, ac English Botany gan James Sowerby a James Edward Smith, Flora Britannica gan Smith, a'r The Botanist's Guide through England and Wales gan Dawson Turner a'r Cymro Lewis Weston Dillwyn. Etholwyd ef yn Gymrawd y Linnean Society ym 1790, a chyhoeddwyd pedair erthygl yn ei gylchgrawn.

Daeth ei "opus magum" (gwaith gorau) Welsh Botanology ym 1813, a'i astudiaeth o Sir Fôn yn arbennig o werthfawr fel model o Fflora Sir.

Enwyd y genws Daviesia (Leguminosae), ar ei ôl gan Smith ym 1798.

Llyfryddiaeth[golygu]