Cnewyllyn cell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Deiagram o gnewyllyn cell ewcaryot ddynol

Cnewyllyn (neu'r niwclews) yw'r canolfan rheoli mewn cell, sydd yn rheoli gweithgareddau'r gell. Ceir cnewyllyn mewn celloedd ewcaryot, ond nid mewn celloedd procaryot megis bacteria. Nid oes cnewyllyn mewn celloedd coch y gwaed, i wneud mwy o le i haemoglobin. Mae hyd cnewyllyn rhwng 11 a 22 micromedr fel arfer.

[golygu] Swyddogaeth y cnewyllyn

Mae rhan fwyaf o enynnau'r cell yn cael eu storio yn y cnewyllyn, ar y cromosomau, molecylau DNA mawr. Yn ogystal, ceir proteinau yn y cnewyllyn sy'n rheoli mynegiant genynnau, ac yn trawsgrifio gwybodaeth gennynol i mRNA i gael ei gludo i'r seitoplasm. Trwy'r broses hon, mae'r cnewyllyn yn rheoli'r adweithiau cemegol sy'n cymryd lle yn y seitoplasm. Yn ogystal, mae'r cnewyllyn yn hollbwysig i'r broses o gellraniad.

Blue morpho butterfly.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill