Primat
Oddi ar Wicipedia
Mandril (Mandrillus sphinx)
|
||||||||
| Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||||
| Is-urddau | ||||||||
|
Mamaliaid o'r urdd Primates yw primatiaid. Mae'r grŵp yn cynnwys lemyriaid, lorisiaid, galagoaid, tarsieriaid, mwncïod ac epaod (gan gynnwys bodau dynol). Ceir yr amrywiaeth fwyaf o brimatiaid yn rhanbarthau trofannol ac isdrofannol Affrica, Asia a'r Amerig. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw mewn coed ac mae ganddynt nifer o addasiadau ar gyfer dringo. Mae llawer ohonynt yn hollysol ac yn bwydo ar ffrwythau, dail ac anifeiliaid bach.