Ynysoedd Cocos

Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd Cocos
ArwyddairOnward our island Edit this on Wikidata
Mathgrŵp o ynysoedd, external territory of Australia Edit this on Wikidata
PrifddinasWest Island Edit this on Wikidata
Poblogaeth602 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1955 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+06:30, Indian/Cocos Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd14 ±1 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.1175°S 96.895°E Edit this on Wikidata
Map
ArianAustralian dollar Edit this on Wikidata
Baner Ynysoedd Cocos
Lleoliad Ynysoedd Cocos
Prif ynys

Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor India yw'r Ynysoedd Cocos (hefyd Ynysoedd Keeling) a reolir gan Awstralia fel 'tiriogaeth allanol' wrth yr enw swyddogol Tiriogaeth yr Ynysoedd Cocos (Keeling) (Saesneg: Territory of the Cocos (Keeling) Islands). Ceir dau atol a 27 o ynysoedd cwrel yn y grŵp. sy'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Awstralia a Sri Lanca ac i'r gorllewin o Indonesia. Y brifddinas yw West Island ond pentref Bantam yw'r anneddle mwyaf.

Yn 2010, roedd gan yr ynysoedd boblogaeth o tua 600.[1] Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd llai yn anghyfanedd. Ceir y boblogaeth i gyd bron ar yr atol deheuol lle ceir dwy brif ynys, West Island a Home Island. Mae mwyafrif poblogaeth West Island (tua 100) yn bobl o dras Ewropeaidd a phobl o dras Malay yw'r mwyafrif ar Home Island (tua 500). Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto ond siaredir tafodiaith o'r iaith Malaieg hefyd. Mae 80% o'r ynyswyr, sef y rhai o dras Malay, yn Fwslemiaid Sunni.

Mae'r ynysoedd dan reolaeth Awstralia ers 1955 ar ôl iddynt gael eu cipio a dod yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn 1857. Llywodraethir Ynysoedd Cocos gan Llywodraethwr Cyffredinol yn ninas Canberra sy'n llywodraethu Ynys y Nadolig yn ogystal. Mae gan yr ynysoedd eu parth rhyngrwyd eu hunain, sef .cc.

Mae'r mwyafrif Malaieg eu hiaith yn teimlo bod llywodraeth Awstralia yn esgeuluso eu hiaith. Dim ond dwy ysgol sydd ar yr ynys. Saesneg yw unig iaith yr ysgolion hyn a gwrthodir hawl y plant i siarad tafodiaith Malaieg y Cocos yn yr ysgol, hyd yn oed wrth chwarae.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "CIA World Factbook". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-10. Cyrchwyd 2010-07-04.
  2. Paige Taylor, Crime in paradise lost in translation Archifwyd 2009-08-19 yn y Peiriant Wayback. "The Australian", Awst 17, 2009

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]