Malawi
|
|||||
| Arwyddair: Unity and Freedom (Saesneg): Undeb a Rhyddid |
|||||
| Anthem: Mlungu dalitsani Malawi | |||||
| Prifddinas | Lilongwe | ||||
| Dinas fwyaf | Blantyre | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg (swyddogol), Chichewa (cenedlaethol) | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth amlbleidiol | ||||
| Arlywydd | Joyce Banda |
||||
| Sefydliad Rhoddir Annibyniaeth |
6 Gorffennaf, 1964 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
118,484 km² (99eg) 20.6 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 1998 - Dwysedd |
12,884,000 (69eg) 9,933,868 109/km² (91af) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $7,670,000,000 (143ydd) $596 (181af) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.404 (165eg) – isel | ||||
| Arian cyfred | Kwacha (D) (MWK) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CAT (UTC+2) CAT (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .mw | ||||
| Côd ffôn | +265 |
||||
Gwlad yn ne Affrica yw Gweriniaeth Malawi, neu Malawi (yn Saesneg: Republic of Malawi, yn Chichewa: Dziko la Malaŵi). Y gwledydd cyfagos yw Tanzania i'r gogledd, Zambia i'r gorllewin, a Mozambique i’r de a'r dwyrain. Mae'n annibynnol ers 1964. Prifddinas Malawi yw Lilongwe.
Cynnwys |
Daearyddiaeth Malawi [golygu]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwlad hir a chul, heb arfordir, yw Malawi. Mae rhan ogleddol y wlad ar ochr orllewinol Llyn Malawi. Yn y gogledd, saif rhwng Zambia yn y gorllewin a Tanzania a Mosambic yn y dwyrain, yr ochr draw i Llyn Malawi. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn afon Shire. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd Nacala a Beira yn Mosambic.
Rhed y Dyffryn Hollt Mawr ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag afon Zambezi yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m yn Mynyddoedd Mulanje.
Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw Blantyre, gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas, Lilongwe, dros 400,000. Mae'r tywydd yn drofannol, gyda tymor glawog rhwng Tachwedd ac Ebrill, ac ychydig iawn o law rhwng Mai a Hydref. Ar y tir isel ceir tymheredd o tua 27° to 29 °C rhwng Medi ac Ebrill, a tua 23° rhwng Mai a Medi.
Hanes Malawi [golygu]
Cafwyd hyd i olion hominid yn dyddio'n ôl tua miliwn o flynyddoedd yn yr ardal yma, ac roedd pobl gynnar yn byw ar lannau Llyn Malawi 50,000 i 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y trigolion cynnar yr Akufula neu'r Batwa. Hwy oedd yn gyfrifol am yr arlunwaith craig i'r de o Lilongwe, yn Chencherere a Mphunzi.
Yn ystod y 16eg ganrif, sefydlwyd gwladwriaeth Maravi gan gangen o'r bobloedd Bantu o gwmpas Llyn Malawi. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi". Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd Tumbuka a Tonga yn y gogledd i ran isaf afon Shire yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd Luangwa a Zambezi. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl Kalonga. Manthimba oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd Chichewa.
Yn y 19eg ganrif, symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y Ngoni, neu'r Angoni, o ardal Natal, yn yr hyn sy'n awr yn Dde Affrica, yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y Zulu, oedd yn ymestyn ei grym dan Shaka Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr Yao neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd Mosambic. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at Islam, ac wedi datblygu partneriaeth a marsiandïwyr caethion Arabaidd.
Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr 16eg ganrif, ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd David Livingstone yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn 1907 rhoddwyd yr enw Nyasaland arni.
Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr Hastings Kamuzu Banda, a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn 1964, ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.
Yn 1993, pleidleisiodd pobl Malawi mewn refferendwm dros gael system ddemocrataidd, sydd wedi parhau ers hynny. Bingu wa Mutharika oedd yr arlywydd o 2004 tan ei farwolaeth yn Ebrill 2012.
Gwleidyddiaeth Malawi [golygu]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Iaith a diwylliant [golygu]
Yn ogystal â Saesneg mae Chichewa yn iaith swyddogol sy'n cael ei siarad gan 57.2% o'r boblogaeth. Yr ieithoedd brodorol eraill yw Chinyanja (12.8%), Chiyao (10.1%), Chitumbuka (9.5%), Chisena (2.7%), Chilomwe (2.4%), a Chitonga (1.7%). Ceir sawl iaith arall (3.6%). (Cyfrifiad 1998, CIA World Factbook).
Economi Malawi [golygu]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gweler hefyd [golygu]
