Yr Ymgiprys am Affrica

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map yn dangos ceisiadau Ewropeaidd i'r Affrig ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf

Y gwrthdaro rhwng ceisiadau Ewropeaidd i dir yr Affrig, ac ymraniad cynddeiriog y tiroedd hynny, yn ystod cyfnod Imperialaeth Newydd, rhwng yr 1870au a dechrau y Rhyfel Byd Cyntaf, oedd yr Ymgiprys am Affrica. Daeth bron y cyfandir i gyd yn rhannau o ymerodraethau trefedigaethol y gwledydd hynny. Dechreuodd yr Ymgiprys yn araf yn yr 1870au, cyrhaeddodd ei uchafbwynt yn hwyr yr 1880au a'r 1890au, a daeth i ben yn negawd gyntaf yr ugeinfed ganrif. Rhwng 1885 ac 1900, bu grymoedd Ewrop yn rasio'i gilydd i ddatgan eu hawliau yn Affrica. Gwrthwynebodd y mwyafrif o Affricanwyr i gael eu meddiannu a'u rheoli gan Ewropeaid, ac o ganlyniad bu ail ran yr Ymgiprys yn ymwneud â byddinoedd Ewropeaidd yn defnyddio arfau modern i drechu'r gwrthwynebwyr a sefydlu awdurdod dros drigolion y cyfandir.

Gwelwyd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg y trawsnewidiad o reolaeth imperialaeth "anffurfiol" drwy ddylanwad milwrol a goruchafiaeth economaidd i reolaeth uniongyrchol. Methodd ymgeision i gyfryngu cystadleuaeth imperialaidd – megis Cynhadledd Berlin (18841885) rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Drydedd Weriniaeth Ffrengig a'r Ymerodraeth Almaenig – i sefydlu, yn derfynol, hawliau y grymoedd oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Anghydfod dros yr Affrig oedd un o'r brif ffactorau ag arweinioddd at y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gweler hefyd[golygu]

Imperialaeth Newyddgw  sg  go )
Codiad Imperialaeth Newydd
Imperialaeth yn Asia
Yr Ymgiprys am Affrica
Diplomyddiaeth y Ddoler
Damcaniaethau ar Imperialaeth Newydd
Zimbabwe Bird.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.