Vladimir Lenin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lenin)
Vladimir Lenin
FfugenwЛенин, Ильин, Н. Ленин, Старик, К. Тулин, Lenin Edit this on Wikidata
LlaisLenin - What Is Soviet Power.ogg Edit this on Wikidata
GanwydВладимир Ильич Ульянов Edit this on Wikidata
22 Ebrill 1870 Edit this on Wikidata
Ulyanovsk Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1924 Edit this on Wikidata
Bolshiye Gorki Edit this on Wikidata
Man preswylPodolsk, St Petersburg, Moscfa, Shushenskoye, Schwabing, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Faculty of Law, Saint Petersburg State University
  • Prifysgol Imperial Kazan
  • Simbirsk Classical Gymnasium Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, economegydd, cyfreithiwr, chwyldroadwr, newyddiadurwr, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol Edit this on Wikidata
SwyddChairman of the Council of People's Commissars of the Russian SFSR, Chairman of the Council of People's Commissars, president of the Council of Labour and Defence of the USSR, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee, Member of the Politburo of the CPSU Central Committee Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Saint Petersburg Edit this on Wikidata
Adnabyddus amImperialism, the Highest Stage of Capitalism Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadKarl Marx, Friedrich Engels, Georgi Plekhanov, Alexander Ivanovich Herzen, Georg Hegel, Karl Kautsky, Joseph Dietzgen, J. A. Hobson Edit this on Wikidata
Taldra165 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Democrataidd-Sosialaidd Rwsia, Plaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia (Bolsiefic), Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
MudiadGwrth-imperialaeth, anti-capitalism, Marcsiaeth, class struggle Edit this on Wikidata
TadIlya Ulyanov Edit this on Wikidata
MamMaria Ulyanova Edit this on Wikidata
PriodNadezhda Krupskaya Edit this on Wikidata
LlinachBlank family Edit this on Wikidata
Gwobr/auWork order of Corasmia, Honorary citizen of Kazan Edit this on Wikidata
llofnod

Chwyldroadwr Rwsiaidd, arweinydd Chwyldro Hydref a Chadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl o 1917 tan 1924 oedd Vladimir Ilyich Lenin (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Ле́нин, trawslythrennu: Fladimir Lenin)[1], enw iawn Vladimir Ilyich Ul'yanov (Rwsieg: Влади́мир Ильи́ч Улья́нов; trawslythrennu: Fladimir Ilitsh Wlianof)[1] (10 / 22 Ebrill 1870 - 21 Ionawr 1924). Sefydlodd y Blaid Bolsiefic gan ei harwain at fuddugoliaeth yn chwyldroadau Rwsia. Ystyrir ef yn un o ffigyrau pwysicaf datblygiad Sosialiaeth wyddonol ynghyd â Karl Marx a Friedrich Engels. Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau gwleidyddol ac athronyddol, a gelwir ei syniadaeth yn Leniniaeth.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Vladimir Ilyich Ulyanov ar 22 Ebrill 1870 yn Simbirsk. Roedd ei dad, Ilya Nikolaevich Ulyanov, yn athro mathemateg a ffiseg ac yn arolygydd ysgolion. Roedd ei deulu yn gymysg o ran cefndir ethnig: ei dad yn Kalmyk, ei fam o dras Almaenig, ac aelodau eraill y teulu yn Iddewon, yn Chuvashiaid, yn Rwsiaid ac yn Swediaid. Roedd teulu ei fam, Mariya Aleksandrovna Blank, yn hanu o Lübeck yn yr Almaen yn wreiddiol. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam yn Iddew a oedd wedi troi at Gristnogaeth Uniongred. Dienyddiwyd brawd hŷn Lenin, Aleksandr, yn 1887 oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn i lofruddio Tsar Alexander III. Effeithiodd hyn yn fawr ar Lenin, a daeth yn fwy radicalaidd yn ei ddaliadau gwleidyddol. Yn yr un flwyddyn fe'i diarddelwyd o Brifysgol Kazan am gymryd rhan mewn protestiadau myfyrwyr ac ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cysylltiad rhyngddo â'i frawd. Dychwelodd i'r brifysgol ym 1891 i gwblhau gradd yn y gyfraith.

Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref Shushenskoye, ger Minusinsk yn Siberia, o 1897 hyd 1900.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Что делать? (1902)
  • Шаг вперёд, два шага назад (1904)
  • Материализм и эмпириокритицизм (1909)
  • Y wladwriaeth a'r chwyldro (1917)
  • Imperialaeth, Cyfnod uchaf Cyfalafiaeth (1917)
  • Детская болезнь "левизны" в коммунизме (1920)

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • W. J. Rees, Lenin, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)
Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. 1.0 1.1 https://teithlyfr.wordpress.com/tag/rwsia/