Baich y Dyn Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cartŵn, gyda'r enw "The White Man's Burden", a gyhoeddwyd yn The Journal, Detroit yn ystod Rhyfel Pilipinas-Unol Daleithiau America yn dangos Americanwr yn cario brodor an-Orllewinol ystrydebol i ysgoldy.

Cysyniad ideolegol yng ngwasanaeth imperialaeth y Gorllewin oedd "Baich y Dyn Gwyn" (Saesneg: The White Man's Burden). Roedd yn un o gymhellion ideolegol a moesol amlycaf ymerodraethau'r Gorllewin wrth iddynt oresgyn rhan helaeth o wledydd Affrica ac Asia a rhannau eraill o'r byd yn y 19eg ganrif. Ceir yr ymadrodd mewn print am y tro cyntaf yn y gerdd "The White Man's Burden" gan y bardd Seisnig Rudyard Kipling ar gyfer jiwbili'r Frenhines Fictoria er mwyn dathlu'r Ymerodraeth Brydeinig ac annog ei hymestyn. Cafodd y gerdd ei gyhoeddi yn y cylchgrawn McClure's yn 1899 yn yr Unol Daleithiau, gyda'r is-deitl 'The United States and the Philippine Islands'. Cafodd yr ymadrodd ei boblogeiddio gan imperialwyr yn UDA fel cyfiawnhad dros imperialiaeth yn nhermau moesol.

Yn ôl y safbwynt a grynhoir yn yr ymadrodd "Baich y Dyn Gwyn", mae credoau gwleidyddol, diwylliannol neu grefyddol yn arwain gwladwriaethau i weld imperialaeth fel "gweithgaredd cenhadol". "Baich y Dyn Gwyn" oedd hi i wareiddio yr "anwariaid" y tu allan i'r Gorllewin. Y tu ôl i'r syniad roedd y gred fod y gwynion yn fwy datblygedig a gwareiddiach na'r pobloedd brodorol ac mae eu dyletswydd moesol nhw oedd eu "dyrchafu" a'u "goleuo" yn ôl eu cysyniadau nhw o'r hyn y dylai gwareiddiad fod.

Gweler hefyd[golygu]