Samuel Johnson
Oddi ar Wicipedia
Portread Dr Johnson, tua 1772, gan Joshua Reynolds.
Awdur a geiriadurwr Seisnig oedd Samuel Johnson, neu Dr Johnson (18 Medi 1709 - 13 Rhagfyr 1784).
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Cafodd Johnson ei eni yn Lichfield, Swydd Stafford. Priododd Elizabeth "Tetty" Porter yn 1735. Roedd yn ffrind i Hester Thrale ac Anna Williams.
Gwaith llenyddol [golygu]
Un o'i lyfrau enwocaf yw A Journey to the Western Islands of Scotland, sy'n cofnodi ei daith i Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd gyda'i gyfaill James Boswell, llenor o'r Alban a fyddai'n ysgrifennu bywgraffiad Johnson yn nes ymlaen. Yn ogystal â'i werth llenyddol, mae'r llyfr yn gofnod pwysig o fywyd yng ngogledd-orllewin yr Alban cyn 'Clirio'r Ucheldiroedd'.
Llyfryddiaeth ddethol [golygu]
Amryw [golygu]
- Dictionary of the English Language (1755)
- A Journey to the Western Islands of Scotland (1775)
- Lives of the Most Eminent English Poets (1779-1781)
Ffuglen [golygu]
- The History of Rasselas, Prince of Abissinia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: