Ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd yn ieithoedd a ddefnyddir tu mewn i aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn cynnwys 24 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ynghyd ag ystod o ieithoedd eraill. Mae'r UE yn datgan ar ei wefan Europa: "Ieithoedd: ased Ewrop" ("Languages: Europe's asset"), ac mae gan yr UE Gomisiynydd Ewropeaidd dros Amlieithrwydd, sef Leonard Orban.

Yn yr Undeb Ewropeaidd, cyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau ydy polisi iaith, a nid oes polisi iaith cyffredin gan yr UE. Mae sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rôl gefnogol yn y maes hwn, yn seiliedig ar "egwyddor cyfrifolaeth". Mae eu rôl yn cynnwys hybu cydweithrediad ymhlith yr aelod-wladwriaethau a hybu'r dimensiwn Ewropeaidd ym mholisïau iaith yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn annog ei ddinasyddion i gyd i fod yn amlieithog; yn benodol, mae'n eu hannog i allu siarad dwy iaith yn ogystal â'u mamiaith. Er bod yr UE â dylanwad cyfyngedig iawn yn y maes hwn – gan fod y cynnwys o systemau addysg yn gyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau unigol – mae nifer o raglenni cyllido o'r UE yn hybu'n weithredol dysgu ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol.

Ieithoedd swyddogol[golygu]

Mae gan yr Undeb Ewropeaidd 24 iaith swyddogol:

Ieithoedd eraill[golygu]

Catalaneg, Basgeg, Galiseg[golygu]

Er nad ydy'r Gatalaneg, y Fasgeg a'r Aliseg yn ieithoedd swyddogol cenedlaethol yn Sbaen, maent yn gymwys i gael eu defnyddio yn swyddogol yn sefydliadau'r UE fel ieithoedd cyd-swyddogol yn y rhanbarthau priodol.

Cymraeg, Gaeleg, Sgoteg[golygu]

Mewn ateb i gwestiwn ynghylch y defnydd swyddogol o ieithoedd rhanbarthol y Deyrnas Unedig (y Gymraeg, yr Aeleg a'r Sgoteg), datganodd Gweinidog y DU dros Ewrop, Douglas Alexander, yn 2005 bod y Llywodraeth heb gynlluniau i wneud darpariaethau o'r fath ar gyfer ieithoedd y DU.

Ieithoedd eraill[golygu]

Ar wahân i'r ieithoedd uchod, mae nifer o ieithoedd lleiafrifol eraill heb eu cydnabod ar y lefel Ewropeaidd, er enghraifft y Lwcsembwrgeg, yr Ocitaneg, y Ffriseg, a'r Ladino.

Demograffeg[golygu]

Mae'r tabl isod yn dangos y gyfran o ddinasyddion sydd yn gallu siarad yr ieithoedd yn y rhestr – fel mamiaith neu fel iaith dramor. Rhestrir yr ieithoedd a siaradir gan 2% o boblogaeth yr UE o leiaf yn unig.

Iaith Fel mamiaith
(% o boblogaeth yr UE)
Fel iaith dramor
(% o boblogaeth yr UE)
Cyfanswm
(% o boblogaeth yr UE)
Almaeneg 18% 14% 32%
Saesneg 13% 38% 51%
Eidaleg 13% 3% 16%
Ffrangeg 12% 14% 26%
Sbaeneg 9% 6% 15%
Pwyleg 9% 1% 10%
Iseldireg 5% 1% 6%
Groeg 3% 0% 3%
Swedeg 2% 1% 3%
Tsieceg 2% 1% 3%
Portiwgaleg 2% 0% 2%
Hwngareg 2% 0% 2%
Rwseg 1% 6% 7%
Slofaceg 1% 1% 2%
Catalaneg 1% 1% 2%

Ffynhonnell: Comisiwn Ewropeaidd (Sylwer: Cyhoeddwyd y data hyn cyn i'r Undeb gael ei ehangu yn 2007.)

Gweler hefyd[golygu]

Cysylltiadau allanol[golygu]