David Crystal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
David Crystal

Ieithydd, academydd ac awdur yw'r Athro David Crystal, OBE (ganwyd 1941 yn Lisburn, Gogledd Iwerddon). Cafodd ei fagu yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yng Nghaergybi. Mynychodd Coleg St Mair, Lerpwl, a Choleg y Brifysgol, Llundain, lle astudiodd Saesneg. Daeth yn ddarlithydd ieithyddiaeth yng Ngoleg y Brifysgol, Bangor, ac rhwng 1965 a 1985 bu'n Anthro Gwyddor Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Reading. Yn 1995 derbynnodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i'r iaith Saesneg. Mae'n awdur drost 60 o lyfrau ar yr iaith Saesneg ac ieithyddiaeth, mae hefyd wedi golygu a chyfrannu at nifer o gyfeirlyfrau. Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cysylltiadau allanol[golygu]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.