Gallipoli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Penrhyn Gallipoli
Erthygl am yr ardal yw hon. Am y ddinas o'r un enw gweler Gelibolu.

Penrhyn Gallipoli (Groeg: Καλλίπολις, Kallipolis, Twrceg: Gelibolu) yw'r enw modern am y penrhyn a elwid yn y cyfnod clasurol y Chersonesos Thraciaidd (Χερσόνησoς Θράκια). Mae'n gwahanu Môr Marmara a Bae Saros. Gelwir y ddinas fwyaf ar y penrhyn yn Gallipoli hefyd. Mae'n rhan o dalaith Çanakkale.

Defnyddiodd Alecsander Fawr y penrhyn fel man cychwyn ar gyfer ei ymgyrchoedd yn Asia yn 334 CC. Yn ddiweddarach, y penrhyn oedd y diriogaeth gyntaf i'r Ymerodraeth Ottomanaidd ei gipio yn Ewrob, yn dilyn daeargryn mawr yn 1354.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Brwydr Gallipoli yma. Ceisiodd byddin yr Ymerodraeth Brydeinig, milwyr o Awstralia a Seland Newydd yn bennaf, gipio'r ardal yma yn Chwefror 1915, ond gorfodd y Twrciaid hwy i encilio yn Ionawr 1916. Gwnaeth y frwydr yma Mustafa Kemal Atatürk yn arwr cenedlaethol yn Nhwrci.