Çanakkale (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad talaith Çanakkale yn Nhwrci.

Talaith yng ngogledd-orllewin Twrci yw Çanakkale. Ei phrifddinas yw dinas Çanakkale. Mae'r boblogaeth tua 476,000.

Mae'r dalaith yn cynnwys darn o ran Ewropeaidd Twrci (Thrace) a darn o'r rhan Asiaidd (Anatolia). Gorynys Gallipoli (Gelibolu) yw'r rhan Ewropeaidd, tra mae'r rhan ohoni sydd yn Anatolia yn cyfateb yn fras i ranbarth hanesyddol y Troad. Gwahenir y ddwy ran gan gulfor y Dardanelles, sy'n cysylltu Môr Marmara a Môr Aegea.

Yn y dalaith yma y ceir safle archaeolegol Caerdroea.


Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.