Utica, Efrog Newydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y ddinas yn Efrog Newydd yw hon. Gweler hefyd Utica (gwahaniaethu).
Golygfa ar ganol Utica

Dinas yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, sy'n ddinas sirol Swydd Oneida, yw Utica. Gorwedd dinas Utica yn yr ardal a adnabyddir fel Dyffryn Mohawk (Mohawk Valley) a Rhanbarth Leatherstocking yng nghanolbarth Talaith Efrog Newydd. Mae gan y ddinas nifer o barciau cyhoeddus a lleoedd ar gyfer chwaraeon haf a gaeaf. Utica a dinas gyfagos Rome yw prif ganolfannau Ardal Ystadegol Utica–Rome, sy'n cynnwys swyddi Oneida a Herkimer. Ei llysenw yw "Sin City". Poblogaeth: 60,651 (2000).

Cysylltiadau Cymreig[golygu]

Datblygodd un o gymunedau mwyaf yr Americanwyr Cymreig, ac yn sicr un o'r rhai mwyaf dylanwadol, yn Utica. Ymsefydlasai Cymry yn yr ardal mor gynnar â diwedd y 18fed ganrif. Ar ôl dioddef cynaeafau gwael yn 1789 a 1802 ac yn y gobaith ennill rhagor o dir, daeth mewnfudwyr Cymreig eraill i ychwanegu at y pum teulu gwreiddiol gan ymgartrefu yn nhreflannau Stueben, Utica a Remsen. Y Cymry oedd y cyntaf i gyflwyno'r diwydiant llaeth i'r ardal, gan dynnu ar eu profiad yn y famwlad, a daeth menyn Cymreig yn nwydd gwerthfawr ym marchnadau Efrog Newydd. Sefydlwyd argraffweisg yn Utica ac roedd wedi'i sefydlu fel prif ganolfan diwylliannol y Cymry yn America erbyn 1830. Roedd yna 19 o gyhoeddwyr gwahanol a argraffodd tua 240 o lyfrau Cymraeg, 4 cylchgrawn Ymneilltuol a'r papur newydd dylanwadol Y Drych.

Mae Cymry a gysylltir ag Utica yn cynnwys:

Dolenni allanol[golygu]