Dydd Gwener y Groglith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crist ar y Groes

Gŵyl grefyddol Gristnogol sy'n coffáu croeshoeliad Iesu Grist a'i farwolaeth ar Fryn Calfaria (Golgotha yn yr iaith Hebraeg) ydy Dydd Gwener y Groglith. Daw Dydd Gwener y Groglith ar y dydd Gwener cyn Sul y Pasg, ac weithiau mae'n cydfynd â'r Pasg Iddewig. Gelwir y dydd Iau cynt yn Ddiwrnod Cablyd.

Mae'r dyddiad yn seiliedig ar yr ysgrythurau sy'n honi i'r croehoelio ddigwydd ar ddydd Gwener.[1] Credir i hyn ddigwydd yn 33 OC, er i Isaac Newton nodi mai 34 OC oedd y dyddiad cywir. Mae'r dryswch yn codi oherwydd y gwahaniaeth rhwng y Calendr Iwliaidd a sefydlwyd gan Iwl Cesar a'r calendr Cristnogol a siap y lloer.[2] Defnyddir trydydd dull, sy'n cwbwl annibynol o'r gweddill, sy'n seiliedig ar gyfeiriad Pedr o "leuad waed" (Actau 2:20), sy'n awgrymu dydd Gwener 3 Ebrill 33 OC.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "John 19". Wesley's Notes for the Bible. Biblecommenter.com. http://wes.biblecommenter.com/john/19.htm. Adalwyd 2010-04-02. "19:42 Because of the preparation - That is, they chose the rather to lay him in that sepulchre which was nigh, because it was the day before the Sabbath, which also was drawing to an end, so that they had no time to carry him far." 
    • Humphreys, Colin J., and W. G. Waddington, "Dating the Crucifixion", Nature 306 (Rhagfyr 22/29, 1983), tud. 743-46. Dyddio'r Croeshelio Nature.com
    • Colin J. Humphreys and W. G. Waddington, The Date of the Crucifixion Journal of the American Scientific Affiliation 37 (Mawrth 1985) The Date of the Crucifixion ASA3.org
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.