Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru
Oddi ar Wicipedia
Pwrpas sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906 oedd i gasglu cerddoriaeth werin ac o fewn hanner can mlynedd o'i sefydlu roedd wedi llwyddo i gasglu bron i 600 o ganeuon traddodiadol Cymraeg. Yn 1988 ailargraffwyd casgliad pwysig Maria Jane Williams a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1844.
Roedd J. Lloyd Williams yn un o sefydlwyr y gymdeithas.