John Lloyd Williams

Oddi ar Wicipedia
John Lloyd Williams
Ganwyd10 Gorffennaf 1854 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 1945 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
Man preswylGarndolbenmaen, Kensington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Brenhinol y Gwyddoniaethau
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethbotanegydd, athro, ysgrifennwr, cerddor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Cysylltir gydaRhedynen Cilarne Edit this on Wikidata

Cerddor a botanegydd oedd John Lloyd Williams (10 Gorffennaf 185415 Tachwedd 1945)[1][2]. Cafodd ei eni yn y Plas Isa, Llanrwst, a oedd yn gartref ar un adeg i William Salesbury. John oedd yr hynaf o saith plentyn Robert a Jane Williams Ar ôl cael addysg elfennol yn ysgol y "Britis" yn Llanrwst enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Normal, Bangor. Yn 1875 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol newydd Garndolbenmaen, ac yn 1893 aeth i'r Royal College of Science[3] yn Kensington gan astudio dan yr Athro John Bretland Farmer[4]. Yn 1897 cafodd swydd darlithydd cynorthwyol ym Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Penodwyd ef yn Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1915. Priododd Elizabeth Jones, merch Emanuel ac Ann Jones, Tŷ Lawr, Cricieth, a bu iddynt ddau fab, Idwal a Geraint. Bu farw 15 Tachwedd 1945 yn Peacedown St. John, Caerfaddon, Gwlad yr Haf, a chladdwyd ef yng Nghricieth[2].

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru, mae'n debyg ei fod yn fwyaf enwog am ei waith yn casglu hen alawon gwerin ac ef sefydlodd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a golygodd ei chylchgrawn o 1909 hyd at ei farwolaeth yn 1945. Cyhoeddodd sawl trefniant o ganeuon gwerin a phedair cyfrol o hunangofiant. Bu ei gyfansoddiad boblogaidd Aelwyd Angharad (1899)[5] yn ddylanwadol iawn.

Botaneg[golygu | golygu cod]

Roedd John Lloyd Williams yn fachgen ifanc pan oedd dadl esblygiad yn ei hanterth yn dilyn cyhoeddi The Origin of Species Charles Darwin. Roedd y 19g hefyd yn gyfnod datblygu yr astudiaeth o ddosbarthiad daearyddol planhigion. Bu ei gyfraniad at faes astudiaethau gwymon o bwys rhyngwladol[6]. Yn 1897 ymunodd â staff Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn ddarlithydd llysieueg cyn cyfnod gyda’r Bwrdd Amaethyddiaeth ym Mangor ac yna symud i Gadair Llysieueg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1915 i 1925. Tra ym Mangor, bu gwymon glannau’r Fenai a’u hymateb i lanw a thrai rhythmig y culfor hwnnw yn ysbrydoliaeth iddo. Datrysodd fanylion cylch bywyd y gwymon brown cyffredin a chodog Fucus. Mae’r gwaith hwn i’w weld o hyd yng ngwerslyfrau’r unfed ganrif ar hugain. Yn 1904-05 ymddangosodd ei waith enwocaf ar Dictyota[7][8], math arall o wymon brown sy’n nodweddiadol am eu rhythmau ffisiolegol. Parhaodd i gyhoeddi trwy gydol ei yrfa, er enghraifft ar gylch bywyd y gwymon mawr, Laminaria[9]. Roedd y gwaith hwn ymhell ar flaen ei amser ac yn berthnasol iawn i waith cyfredol ym maes clociau biolegol. Yn ôl pob sôn, ‘roedd hefyd yn addysgwr penigamp ac yn hoff o dywys dosbarthiadau o fyfyrwyr ar hyd moelydd Eryri.  Yn ystod y teithiau hyn daeth daeth ei ddau gariad ynghyd wrth iddo hefyd gasglu alawon a chaneuon wrth alw heibio’r tyddynnod.  Yn 90 oed derbyniodd anrheg o ffon gerdded. “Bydd hwn yn ddefnyddiol pan fyddaf yn hen,” oedd ei ymateb[6].

Daeth John Lloyd Williams o hyd i un o redynau prinnaf Cymru sef yr hyn a elwir heddiw yn T. speciosum. Yn Saesneg gelwir hi'n Killarney fern[10], a bristle fern. Yr enw Cymraeg yw rhedynen wrychog neu'r llugwe fawr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Dewi (2000). "J. Lloyd Williams y botanegydd. Y blynyddoedd Gorchestol.". Y Traethodydd 155: 159-175. https://datasyllwr.llgc.org.uk/journals/pdf/AWJBU101027.pdf.
  2. 2.0 2.1 Roberts, Robert Alun. "Williams, John Lloyd (1854 - 1945), llysieuydd a cherddor". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd Chwefror 21, 2019.
  3. "Royal College of Science". Wikipedia. 24 Medi 2018. Cyrchwyd Chwefror 21, 2019.
  4. Blackman, Vernon Herbert (1 Tachwedd 1945). "John Bretland Farmer, 1865-1944". Y Gymdeithas Frenhinol. Cyrchwyd Chwefror 21, 2019.
  5. "Aelwyd Angharad". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd Chwefror 21, 2019.
  6. 6.0 6.1 "J. Lloyd Williams (ysgrif goffa)". Proceedings of the Linnean Society of London 158 (1): 72-74. 1947. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/pdf/10.1111/j.1095-8312.1947.tb00444.x.
  7. Williams, J. Lloyd (1 Rhagfyr 1897). "The Antherozoids of Dictyota and Taonia: With Plate XXV". Annals of Botany os-11 (4): 545–554. https://watermark.silverchair.com/os-11-4-545.pdf?token=AQECAHi208BE49Ooan9kkhW_Ercy7Dm3ZL_9Cf3qfKAc485ysgAAAlYwggJSBgkqhkiG9w0BBwagggJDMIICPwIBADCCAjgGCSqGSIb3DQEHATAeBglghkgBZQMEAS4wEQQMgkyeulzPNFOY7NlcAgEQgIICCa3VmaLnSVugE_a1fxmI33bKFvQZCSd3rQAIv1yY8ebpTX_7xmusx2U1TrjL8tbk1OrGnV-pxy8gyTyvNWLhF-ObQoBZjRMZXxPHDmrIPio6pDlAitkxKV-WhfL8zkXqygaKLJdf9KD7KfppCUudMbhuIYSrBDqidWNVRhRKj41wekkae1y2l3jnVMcFOi7WLhydY-7tWKyHSmGUlpQq9qBkH-wXHku1KuDEJ64nFTi1PYMHwVDnDSvC5zC51-im-9Hq8tNMQ6JA65arWC3BLEneJL1kv0g_n6XZuQ-lmR7r20IfRu6E7t_vCRQ5oP1mpZvh7-UNSLKfXnXIcCF8LyWvuj4pS9_gFj9Aw6RTgfFpPbb_F0ZVGWLp-jnc8lg9P8zpYP-KADRb1oTjQJJdu9yK3YbCenxlrHSXxehnr8q2a9T_8ZxYpjLp5NF-yHJD4bY0g6NBbPxFfaPoENyn_IDhJlVJpC2tMeKrzt46sluIi0eu9DA_3jo6OALvuvlM69xlA6ejOXXDSEHKk4MAAjwiT4O4Evo9AMxtBWVunMoCPxQReCldZKUnJw5vbAVAxvQtPXnbTJDzdkBglUdeNzBkNiIOUK-hvf-Xst7iXp3m54BH8Qm5rmoDWOEQT-lWNj6iHKT_JUCa_Ga1ji-Y25ANjB7pZk2B7HGPJ4OJg9g9DPs6n7lCqr9q.
  8. Williams, J. Lloyd (1 Rhagfyr 1898). "Reproduction in Dictyota dichotoma". Annals of Botany os-12 (4): 559–560. https://watermark.silverchair.com/os-12-4-559.pdf?token=AQECAHi208BE49Ooan9kkhW_Ercy7Dm3ZL_9Cf3qfKAc485ysgAAAlYwggJSBgkqhkiG9w0BBwagggJDMIICPwIBADCCAjgGCSqGSIb3DQEHATAeBglghkgBZQMEAS4wEQQMe8iaQKNXM9wM78qdAgEQgIICCdzm5mt3d4TEAbvLbZnUp0iDb4P9Yiy-tswuResmiLIFIWwZuNf96KVaFgS5atN_P0l-1MHGvDgH9mh_RIT9fhuB7MasZIZVpzkamvx4zOtyqQFyvmqFjaIhOrdB75dD3xLhL72YEum9Ve8ymwGtUvicwqscZwk2agmdFqyLk0QACzGLSOPpR-Sx-j6KivlDnWxmrUJajTJ9fR9KjCWsE_L7WYpcVdpUqlgRFgx6mrrxDyDj8lGIthYt55ihfONXMbBcHdk75pqC8eDf4d7DlpStDfl2WYSnSZ4kLQuuDjoYcymjB5MhgsZmzHnNSftwUR4qHc9htXKEx1UP-zx-rRip3b7c6CBbzIsily4Svjkew2RYNebzQmErppdJSY8Tc01wXyK8yiSTzwTSt2wVu68KEFUfbNVxvbe06v6RjbwNawKVKdbElr7uICGP-WEI9s5WpoIwDcGljhFHKzFbAKNTKrRbnBt9OaEJGOW0JFJFG6ZMk_paetpi62ji0rNiyJAwau9kBzNOuaInnwyUGjhbZ46h6hOn3xayWSeN4YYbm4nJB5sPT4ew_VMfDAwnAwMHCpM1gwDX6e5ebCg99P7aNjEWqGl9vp4TJ1Ig_f90kR_bHXkScxo_1RB5OMTz0chBwlfrOhFdeRhZbV0dGoC_n0wkqgT1ksTBoFJ3a12hLZV9SEqo7WjC.
  9. Williams, J. Lloyd (1 Hydref 1921). "The Gametophytes and fertilization in Laminaria and Chorda. (Preliminary account).". Annals of Botany os-35 (4): 603–607,. https://watermark.silverchair.com/os-35-4-603.pdf?token=AQECAHi208BE49Ooan9kkhW_Ercy7Dm3ZL_9Cf3qfKAc485ysgAAAlYwggJSBgkqhkiG9w0BBwagggJDMIICPwIBADCCAjgGCSqGSIb3DQEHATAeBglghkgBZQMEAS4wEQQMfn9nBPt3fjjuO7oqAgEQgIICCau8TpZh1tQkmYfjvW1gMSbNR6nkrthqKL-2uVpSLHKzkAtgjTnLHslXt16ULJ06WNnLeIyF-97A5ALycLwgE4-H717rnbKfbytkjRK5yo3MptMxPdN_M-4JYcDeKJq-SkWlO26sdYZut9cFzkkMdy_-Px2El_BHArDx9xzpLUpxJIIA3IOzKYTqkV3cnyLJ9hIATh4M28Z12s3VupAuVZwhnMxJkMF8ZFCX7WH5Mn-6vUfzOiCIO6AevnQvfLwTOxZ73DuAJ6gihP-BlzJMregjaZc3TdwF7u-6zJdBNCvx8GRwTPnwrsQXJFhlTJoMWP2IJhLvO6IxKJ03qerMQCr5o1CDx-LbY06tIXTVP8bJmbdOceBkYrHuC2wMJzNAD1pxu4qdjiO6xJULHhgAL3YUj-LvyUN01d0r7Wgf_OgtiItKDLOpXcQg9idp-yjAxAxmj0aH5cTaP6VDC38dIVIGcIRldVpLCsSteiSNaW4Ez4Z-OmFPVh90OJnIUauVt6j0LZtHFvvkdhtixuPW2Wtyk1uvjQyyX53RtoS8445LPCNZpLuMsoWR0BiEnnAYAzzUyxHZJOqqz2ANCbBoWYnL0uYr_IBz904P2bNTrrccC_eMyb-wuSCSdHPzwg_dzTnRKhBtLxplPoFS6jZwdpflycK_N2wd-4_UZPww0IUWJ216ebWHn2D9.
  10. D.A. Ratcliffe, H.J.B.Birks a Hilary H.Birks (1993). "The ecology and conservation of the Killarney Fern Trichomanes speciosum willd. In Britain and Ireland". Biological Conservation 66 (3): 231-247. https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/000632079390008O.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Byd y Blodau 1924
  • Flowers of the wayside and Meadow 1927
  • Atgofion Tri Chwarter Canrif (Pedair cyfrol rhwng 1941 - 1945)