Charing Cross
Oddi ar Wicipedia
Charing Cross yw'r enw a roddir ar gyffordd y Strand, Whitehall a Cockspur Street, i'r de o Sgwâr Trafalgar yn ninas San Steffan yng nghanol Llundain, Lloegr. Cafodd ei enwi ar ôl hen safle Croes Elinor (Saesneg: Eleanor cross) yng hen bentrefan Charing, lle saif heddiw cerflun y Siarl I, brenin Lloegr, ar ben ceffyl. Ers ail hanner y ddeunawfed ganrif fe ystyrir Charing Cross fel canol Llundain.