Thomas Iorwerth Ellis
Oddi ar Wicipedia
Awdur Cymraeg, darlithydd a phrifathro, oedd Thomas Iorwerth Ellis a gyhoeddai wrth yr enw T. I. Ellis (1899, Llundain - 1970). Roedd yn fab i'r gwleidydd adnabyddus Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd.
Cafodd yrfa hir ym myd addysg fel darlithydd yn y Clasuron ac fel prifathro ysgol sir y Fflint yn Y Rhyl. Bu'n ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd (1941-1967). Gwasanaethodd hefyd am gyfnodau hir ar bywllgorau sefydliadau fel Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfranodd nifer o erthyglau ar bynciau llenyddol, diwylliannol a gwleidyddol i gylchgronau Cymreig a chwe chyfrol i'r gyfres boblogaidd Crwydro Cymru (Llyfrau'r Dryw). Cyhoeddodd hefyd gofiant i'w dad mewn dwy gyfrol a chasgliad o ysgrifau.
Llyfryddiaeth[golygu]
- Crwydro Ceredigion
- Crwydro Maldwyn
- Crwydro Meirionnydd
- Crwydro Mynwy
- Crwydro Sir y Fflint
- Eraill
- The Development of Higher Education in Wales (1935)
- Cofiant T. E. Ellis (1944, 1948)
- Ym Mêr fy Esgyrn (1955). Ysgrifau.
- Dilyn Llwybrau (1967). Ysgrifau
- Life of Ellis Jones Griffith (1969)