Hertz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Almaenwr Heinrich Hertz

Mae hertz (symbol: Hz) yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur amledd, ac a ddiffinir fel y nifer o gylchedau (neu nifer y dirgryniadau) mewn eiliad. Mae traw uchel i sain sydd ag amledd uchel. Defnyddir y gair fel enw unigol neu luosog a gellir rhoi rhagddodiad o'i flaen; e.e. "megahertz", "gigahertz".

Amrediad arferol y clyw dynol ydyw o 20 Hz i 20,000 Hz ond bod y terfan uchaf yn lleihau gydag oed y person. Gall gi glywed hyd at 40,000 Hz. Mae sain yn teithio ar fuanedd o tua 330 metr yr eiliad, mewn aer; mae golau yn teithio yn llawer cyflymach na hyn (299 792 458 metr yr eiliad wedi'i diffinio). Gellir dweud mai buanedd cyfartaolg ydy'r pellter a deithiwyd wedi'i rannu gyda'r amser a gymerodd.

Y darganfyddwr[golygu]

Mae'r uned wedi'i henwi ar ôl Heinrich Rudolf Hertz (22 Chwefror 1857 – 1 Ionawr 1894) a wnaeth gwaith avant garde iawn ym maes tonnau radio VHF ac UHF.

Cyfeiriadau[golygu]

Physics template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.