Kelvin

Oddi ar Wicipedia
Kelvin
Thermomedr sydd yn dangos y tymheredd yn Kelvin ac ar y raddfa Celsius
Enghraifft o'r canlynolunedau sylfaenol SI, uned o dymheredd, uned SI gydlynol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r kelvin (symbol: K), a ddefnyddir i fesur tymheredd. Fe'i henwir ar ôl y ffisegydd William Thomson, Arglwydd Kelvin. Mae'n debyg i'r raddfa Celsius gan fod 1 kelvin yn cyfateb i 1 gradd Celsius. Ond yn wahanol i raddfa Celsius, y rhif lleiaf posib ar y raddfa Kelvin yw "0 K" (sero K). Gelwir y tymheredd yma'n "sero absoliwt". Dyma'r tymheredd lle braidd nad oes unrhyw egni dirgryniol (gwres) yn bodoli yn y gronynnau.

O ganlyniad mae rhaid ychwanegu 273.15 i'r tymheredd yn Kelvin i gael y ffigwr ar raddfa Celsius.


Digwyddiad/
sefyllfa
Tymheredd
yn kelvin
Tymheredd ar
raddfa Celsius
Sero Absoliwt 0 K -273.15 °C
Dŵr yn rhewi 273.15 K 0 °C
Dŵr yn berwi 373.15 K 100 °C
Tymheredd arwyneb
yr Haul
5780 K 5507 °C
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.