Amper
Mae amper (Ffrangeg: Ampère) (symbol: A) yn uned SI rhyngwladol sy'n hafal i un uned o gerrynt trydan.[1] ac sy'n un o'r saith prif uned. Y chwe arall yw'r: metr, kelvin, eiliad, Môl, candela a'r kilogram.
Tardd yr enw o enw tad electrodeinameg, sef André-Marie Ampère (1775–1836), mathemategydd a Ffisegydd Ffrengig. Yn ymarferol, caiff yr enw'i dalfyru'n amp (lluosog Cymraeg: amps).
Diffiniad [golygu]
Yn ymarferol, gellir diffinio amper fel mesur o hyn-a-hyn o wefr trydanol yn pasio heibio i ryw bwynt neu'i gilydd am rhyw gyfnod (neu uned) o amser h.y. mae tua 6.241 × 1018 o electronau'n pasio heibio rhyw bwynt penodol yn gyfystyr ag amp.[2]
Mae Deddf grym Ampere (Saesneg: Ampère's force law) yn hawlio fod grym atynol yn bodoli rhwng dwy weiren cyfochrog sy'n dargludo cerrynt trydanol. Cynhwysir y grym atynol hwn yn y diffiniad swyddogol o'r amper; sef "cerrynt cyson sy'n cynhyrchu grym atynol o 2 × 10–7 newton (uned) y fetr, o ran hyd, a hynny rhwng dau dargludydd syth, cyfochrog... wedi'u gosod un fetr oddi wrth ei gilydd mewn faciwm.[3]
Yn nhermau mathemateg, gellir diffinio Deddf Grymiant Ampere fel:
felly:
Diffinir uned SI gwefr (sef y coulomb) fel, "hyn-a-hyn o drydan sy'n llifo mewn un eiliad gan gerrynt o un ampere."[4] Ar y llaw arall, mae cerrynt o un ampere yn wefr o un coloumb sy'n pasio rhyw bwynt neu'i gilydd am gyfnod o un eiliad:
I gyffredinoli, mae gwefr Q wedi ei ddiffinio gan gerrynt cyson I sy'n llifo dros gyfnod o amser t fel Q = It.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Diffiniad swyddogol BIPM
- ↑ Bodanis, David. (2005). Electric Universe. New York: Three Rivers Press
- ↑ Paul M. S. Monk, Physical Chemistry: Understanding our Chemical World, John Wiley and Sons, 2004 gwefan.
- ↑ Bureau International des Poids et Mesures. (2006).The International System of Units (SI), 8th ed. p. 144.


