William Jones (mathemategydd)
Mathemategydd Cymreig oedd Syr William Jones (1675 – 3 Gorffennaf 1749).
Cynnwys |
[golygu] Bywyd
Ganwyd a magwyd ef ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, ar Ynys Môn. Roedd e'n ffodus i ennill cefnogaeth y teulu Bulkeley, ac yn hwyrach Iarll Macclesfield er mwyn cael ei addysgu. Addysgwyd ef yn fathemategydd ar fwrdd llong o 1695 hyd 1702, ac wedyn bu'n athro Mathemateg yn Llundain. Roedd yn ffrind agos i Syr Isaac Newton a Syr Edmond Halley. Yn 1712, etholwyd ef yn frodor o’r Gymdeithas Frenhinol, a bu'n ddirprwy-lywydd y Gymdeithas am gyfnod. Enwyd ei fab yn William Jones hefyd, a oedd yn ieithydd enwog, yn enwedig am ddarganfod y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd.
[golygu] Gwaith
Ei gyfraniad mwyaf fel mathemategydd oedd ei gyflwyniad o'r symbol π (y llythyren Groeg pi) i gynrychioli’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a'i ddiamedr. Cyhoeddwyd ei lyfr, Synopsis Palmariorum Matheseos, yn 1705, ac yn hwn y gwelir y symbol π yn ei hystyr parhaol am y tro cyntaf. Anelwyd y llyfr at ddechreuwyr, ac mae’n cynnwys calcwlws differol a chyfresi diddiwedd. Roedd ganddo ddiddordeb mewn llywio morol, a’r llyfr A New Compendium of the Whole Art of Navigation oedd ei gyhoeddiad cyntaf. Yn 1731 cyhoeddodd Discourses of the Natural Philosophy of the Elements.
[golygu] Cysylltiadau Allanol
- (Saesneg) The Galileo Project
[golygu] Ffynonellau
- Ll. G. Chambers, William Jones yn Bedwyr Lewis Jones (golygydd) (1979) Gwŷr Môn