Calcwlws
Oddi ar Wicipedia
Cangen o fathemateg sy'n canolbwyntio ar derfynnau, ffwythiannau, deilliadau, ac integrynnau ydyw calcwlws.
Mae iddi ddwy brif gangen, sef calcwlws differol a calcwlws integrol, sydd yn perthyn i'w gilydd o ganlyniad i theorem sylfaenol calcwlws. Yn y bôn, yr astudiaeth o newid yw calcwlws, yn yr un modd ag y mai geometreg yn astudiaeth o siâp, ac algebra yn astudiaeth o weithredoedd mathemategol a'u defnydd wrth ddatrys hafaliadau.