Differu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Graff o ffwythiant mewn du, a llinell tangiad y ffwythiant mewn coch. Mae graddiant y llinell tangiad yn gyfartal â differiad y ffwythiant ar y pwynt sydd wedi ei farcio.
Mae'r cord (glas) yn fras amcan o'r tangiad ar y pwynt (x, f(x)).

Mesuriad o sut mae ffwythiant mathemategol yn newid wrth i'r mewnbynnau newid yw differu. Mae'n rhan o gangen calcwlws o fathemateg.

Cynnwys

[golygu] Diffiniad

Cyn i Isaac Newton a Gottfried Wilhelm Leibniz ddarganfod calcwlws yn y 1670au, fe wyddys eisoes fod graddiant y llinell syth, y = mx + c, yn hafal i newid mewn y wedi ei rannu gan newid mewn x; Δyx = m. Fe wyddys hefyd fod graddiant cromlin ar ryw bwynt yn hafal i raddiant y tangiad ar y pwynt hwnnw. Ond nid oedd ffordd gydlynol o ganfod graddiant cromliniau ac felly ni allai gwyddonwyr astudio cyfraddau anghyson yn hawdd. Ysgogodd y broblem hon ddatblygiad calcwlws.

Nid dim ond y sy'n ffwythiant o x, mae graddiant y gromlin y = f(x) yn ffwythiant o x hefyd gan nad ydyw'n gyson. Y differiad yw'r ffwythiant hwn. Ystyriwch ddau bwynt sy'n agos iawn at ei gilydd ar y gromlin: (x,y) ac (x + Δx, y + Δy). Po leiaf yw Δx yr agosaf y mae Δyx at y graddiant ar y pwynt (x,y), a phan fo Δx yn anfeidrol o fach, mae Δyx yn hafal i raddiant y gromlin ar y pwynt (x,y). Fel arfer fe ddefnyddir y nodiant dy/dx pan fo Δyx yn agosáu at 0:

\frac{\mathrm{d}y}{\mathrm{d}x}=\lim_{\Delta x\to 0}\frac{\Delta y}{\Delta x}

Gan fod y = f(x), gellir canfod ffwythiant y graddiant, y differiad, drwy ddefnyddio algebra:

f'(x)=\frac{\mathrm{d}y}{\mathrm{d}x}=\lim_{\Delta x\to 0}\frac{f(x+\Delta x)-f(x)}{\Delta x}

[golygu] Enghraifft

Wrth ddiferu'r ffwythiant, f(x)\! = x^2, ceir:

\begin{align}
f'(x) &{}=\lim_{\Delta x\rightarrow 0 }\frac{(x+\Delta x)^2-x^2}{\Delta x} \\
      &{}=\lim_{\Delta x\rightarrow 0}\frac{x^2+2x\Delta x + (\Delta x)^2-x^2 }{\Delta x} \\
      &{}=\lim_{\Delta x\rightarrow 0}2x + \Delta x \\
      &{}=2x
\end{align}

Gwyddom yn awr fod f ' (x) = 2x, ac felly gallwn ganfod graddiant y gromlin ar unrhyw bwynt. Er enghraifft, y graddiant ar y pwynt (4,16) yw f ' (4) = 2 × 4 = 8.

[golygu] Differiadau cyffredin

Mae polynomial yn enghraifft o ffwythiant â ffurf syml o'i ddifferiad. Os rhoddir y ffwythiant gan:

 y ={x^{n}}

rhoddir y differiad gan:

 \frac{dy}{dx} ={nx^{n-1}}

Ffwythiant "ln" (logarithm naturiol) yw enghraifft arall. Ar gyfer y ffwythiant:

 y = \ln x

rhoddir y differiad gan:

 \frac{dy}{dx} = \frac{1}{x}

Yn ôl y "rheol cadwyn", os mae y yn dibynnu ar u ac mae u yn dibynnu ar x:

 \frac{dy}{dx} = \frac{dy}{du} \frac{du}{dx}

er enghraifft, os:

 y = (\ln x)^{n}

ceir ei ddifferu fel:

 \frac{dy}{dx} = {n (\ln x)^{n-1} \left(\frac{1}{x}\right)}

[golygu] Nodiant

[golygu] Dolenni allanol

Racine carrée bleue.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fathemateg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill