Ymosodiadau 11 Medi 2001

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mwg Canolfan Masnach y Byd
Y Pentagon wedi i'r awyren ffrwydro i fewn iddio.

Cyfres o bedair cyrch terfysgol ar yr Unol Daleithiau oedd ymosodiadau 11 Medi 2001. Ar fore Dydd Mawrth, 11 Medi 2001, meddiannodd 19 o aelodau al-Qaeda pedair awyren fasnachol – tarawodd dwy ohonynt i fewn i Ganolfan Masnach y Byd, un i fewn i'r Pentagon a syrthiodd y llall ar gae yn Swydd Somerset ym Mhennsylvania er i'r teithwyr geisio adennill rheolaeth ar yr awyren yn dilyn ei meddiannu gan herwgipwyr.

Bu farw tua 3000 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys yr herwgipwyr. Ymateb yr Unol Daleithiau oedd dechrau "Rhyfel ar Derfysgaeth" gan oresgyn Afghanistan i geisio diorseddu y Taliban a oedd wedi rhoi lloches i derfysgwyr al-Qaedam, y mudiad oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

[golygu] Cysylltiadau allanol

Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill