Tsietsnia

Oddi ar Wicipedia
Tsietsnia
Mathgweriniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
PrifddinasGrozny Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,492,992 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Ionawr 1993 Edit this on Wikidata
AnthemCân Shatlak
Pennaeth llywodraethRamzan Kadyrov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg, Tsietsnieg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd16,165 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDagestan, Crai Stavropol, Gogledd Osetia, Gweriniaeth Ingushetia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.4°N 45.7167°E Edit this on Wikidata
RU-CE Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Pen Y Weriniaeth Tsietsniaidd
Pennaeth y LlywodraethRamzan Kadyrov Edit this on Wikidata
Map

Un o Weriniaethau Hunanlywodraethol Rwsia yw Tsietsnia, yn llawn Y Weriniaeth Tsietsniaidd, hefyd Chechnya (Rwseg: Чеченская республика, Tsietsnieg: Нохчийн Республика/Noxçiyn Respublika). Saif yn ardal Gogledd y Cawcasws ac mae'n rhan o'r Rhanbarth Ffederal Deheuol. Mae'r mudiad sy'n ymgyrchu am hunanlywodraeth yn defnyddio'r enw Gweriniaeth Tsietsniaidd Itskeria. Enwir y weriniaeth ar ôl grŵp ethnig y Tsietsien. Yn y de, mae'n ffinio ar Georgia. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 1,103,686, a'r brifddinas yw Grozny.

Wedi i'r Undeb Sofietaidd ddod i ben yn 1991, cyhoeddodd Gweriniaeth Tsietsniaidd Itskeria ei hun yn annibynnol. Yn dilyn Rhyfel Cyntaf Tsietsnia, llwyddodd y weriniaeth hon i ennill annibyniaeth de facto, ond yn yr Ail Ryfel Tsietsniaidd adfeddiannwyd y diriogaeth gan Rwsia, gyda difrod mawr.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Tsietsnia yn weriniaeth sy'n cwmpasu 17,300 km2 (6680 mi sg) ac mae wedi'i lleoli yn rhan ganolog y Cawcasws. Mae tua 35% o'r diriogaeth yn cynnwys mynyddoedd uchel.

Gwledydd a rhanbarthau cyfagos[golygu | golygu cod]

Dinasoedd a threfi gydag mwy na 20,000 o bobl yn byw ynddynt[golygu | golygu cod]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yr 15eg ganrif a'r atodiad i Ymerodraeth Rwsia[golygu | golygu cod]

Roedd Tsietsnia yn ran o'r Ymerodraeth Otomanaidd ers y 15fed ganrif, yn 1577 aeth yr Cosaciaid rhyddhaol o'r Volga yno ac ymgartrefu ar lannau'r Afon Terek, gan ffurfio cymuned o'r enw'r Talaith Cosac Terek. Yn 1783 llofnododd teyrnasoedd Rwsia a Georgia y gytundeb Georgievsk lle cyflwynodd y Kartli-Kakheti i gael y talaith i ddod yn rhan o'r awdurdod ymerodrol Rwsieg fel amddiffynfa. Er mwyn sicrhau cyfathrebu uniongyrchol rhwng Georgia a rhanbarthau eraill Transcawcasia, ceisiodd yr Ymerodraeth Rwsia ehangu ei rheolaeth dros Tsietsnia, gan achosi Rhyfel y Cawcasws ym 1817, yn enwedig yn yr ucheldiroedd derbyniodd yr byddin ymerodrol Rwsieg lawer o wrthwynebiad gan y Tsietsniaid. Anfonwyd byddin o 250,000 o filwyr yn ei herbyn o dan orchymyn y Cadfridog Aleksandr Baryatinskij a lwyddodd i chwalu'r gwrthryfel dim ond ym 1859, 42 mlynedd ar ôl cychwyniad y rhyfel. Atodwyd Tsietsnia i'r Ymerodraeth Rwsia ym 1783, er y bod digwyddodd lawer o gwrthryfeloedd cyfnodol yn yr ardal. Ymgorfforwyd Tsietsnia ac Ingushetia i'r Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Ymreolaethol Tsietieneg-Ingwsh ar adeg genedigaeth yr Undeb Sofietaidd ym 1917.

Yr gwrthryfel yn erbyn rheolaeth yr Undeb Sofietaidd[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cododd y Tsietsniaid yn erbyn y Rwsiaid gan obeithio manteisio ar ymrwymiad y fyddin Sofietaidd ar ffryntiau eraill i ennill annibyniaeth, ond unwaith wnaeth y Fyddin Goch gwthio'r milwyr yr Natsïaid yn ôl, gorchmynnodd Stalin gosbau lem ar y Tsietsniaid, gan gyhuddo nhw o gydweithio â'r Natsïaid (fodd bynnag, nid oes tystiolaeth hanesyddol ddilys i gefnogi'r cyhuddiad). Ar Chwefror 23, 1944, digwyddodd yr Alltudiad o Tsietsniaid a'r Ingwshetiaid; alltudiwyd hanner miliwn o ddinasyddion Tsietsieneg o'r Cawcasws i'r Weriniaeth Sofietaidd Kazakhstan mewn un noson.[1] Yma roedd y Tsietsniaid wedi'u wedi'u gwasgaru oddi wrth ei gylidd mewn ymgais i diradicaleiddio'r gwrthryfelwyr. Yn 1956 gorfodwyd y Tsietsniaid i addasu i'r polisiau newydd ynglŷn â'r defnydd a'r iaith Rwsieg yn yr Cawcasws.[2] Dim ond ym 1957 y caniatawyd iddynt ddychwelyd i'w rhanbarth.

Annibyniaeth Tsietsnia ar ôl gorffeniad yr Undeb Sofietaidd a'r Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1990au)[golygu | golygu cod]

Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd yn Tsietsnia, ganed mudiad annibyniaeth a ddaeth i wrthdaro â Rwsia a oedd yn anfodlon i gydnabod gwahaniad Tsietsnia a'r wlad. Cyhoeddodd Dzokhar Dudaev, arllywydd gwladgarwrol Y Weriniaeth Tsietsniaidd, annibyniaeth y genedl o Rwsia ym 1991, ni cytunwyd Arlywydd Rwsia, Boris Yeltsin, i hyn ac yna fel canlyniad dechreuodd y Rhyfel cyntaf Tsietsnia. Ym 1994, anfonodd Boris Yeltsin 30,000 o filwyr i'r weriniaeth i atal ei gwahaniad o'r Ffederasiwn, er gwaethaf i fyddinoedd Rwsia, a oedd ag offer gwael a digymhelliant, ddioddef hyd yn oed orchfygiadau sylweddol gan y gwrthryfelwyr[3], wnaethant lwyddo i reoli prifddinas y wlad, Grozny, ym mis Chwefror 1995. Llwyddodd i'r byddin Rwsieg hefyd i ladd yr Arlywydd Tsietsniadd, Dzokhar Dudaev, ar 21 Ebrill 1996, gyda thaflegryn.

Gwahanydd Tsietsnieg ger Plas yr Arlywydd yn Grozny, Ionawr 1995,

Ar 6 Mawrth 1996, ymdreiddiodd rhwng 1,500 a 2,000 o wrthryfelwyr Tsietsniaidd y prifddinas ac am dri diwrnod lansiwyd ymosodiadau annisgwyl mewn sawl ardal yno, gan lwyddo hyd yn oed i gipio arfau a bwledi. Dwy mis wedyn, ar 28 Mai 1996, datganodd Arlywydd Rwsia fuddugoliaeth yn Grozny, ar ôl "cadoediad" dros dro gydag yr Arlywydd Tsietsniaidd, dros dro Zelikhan Yandarbiyev,[4] ond parhaodd y lluoedd arfog â'r rhyfel. Ar 6 Awst 1996, dridiau cyn i Yeltsin gael ei benodi’n arlywydd Rwsia am yr ail dymor a phan symudwyd y rhan fwyaf o filwyr Rwsia i’r de i aros am y ymosodiad olaf yn y cadarnleoedd gwrthryfelol yn y mynyddoedd. Er hynny, lansiodd gwrthryfelwyr Tsietsniaidd ymosodiad syndod am y brifddinas. Ymosododd Shamil Basayev, wrth reoli tua 5000 o ddynion, ar Grozny ar 6 Awst 1996, gan lwyddo i feddiannu holl bwyntiau allweddol y ddinas. Roedd y llwyddiant yr ymosodiad gan yr gwrthryfelwyr a’r nifer uchel o garcharorion o Rwsia a cafodd eu dal wedi gorfodi Aleksandr Lebed i drafod a lofnodi cytundeb Chasavjurt, a gymeradwyodd fuddugoliaeth ddiffiniol Tsietsieneg. Yn diwedd mis Awst 1996, cytunodd Yeltsin gydag arweinwyr Tsietieneg am gadoediad yn Dagestan; arweiniodd at yr arwyddiad o'r cytundeb heddwch ym 1997. Ar ddiwedd Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1994-96) roedd Aslan Maskhadov, pennaeth lluoedd y gwrthryfelwyr wedi arwyddo gadoediad gyda lluoedd arfog Rwsia ac yna fe etholwyd ef yn Arlywydd cyntaf Tsietsnia. Etholwyd Aslan Maskhadov i dymor o bedair blynedd mewn etholiad a gynhaliwyd o dan fonitro rhyngwladol ym mis Ionawr 1997. Fel canlyniad o'r rhyfel, gadawodd lawer o'r poblogaeth Rwsieg y wlad.[5]

Ail Rhyfel Tsietsnia[golygu | golygu cod]

Ar ôl Rhyfel Cyntaf Tsietsnia, dinistriwyd y wlad yn economaidd ac yn seicolegol. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r seilwaith, ynghyd â dinasoedd a gweithgareddau diwydiannol. Roedd gweithgareddau troseddol a’r blocâd economaidd parhaus ar ôl y rhyfel wedi cyrydu’r gwead economaidd-gymdeithasol a gadael y cae ar agor am dreiddiad mwy eithafol o Wahhabiaeth, yn enwedig yn rhannau gwannach a tlotach y boblogaeth fel y di-waith a’r ifanc. Ym mis Awst 1999, goresgynnodd Shamil Basayev (Cadfridog byddin jihadaidd Tsietsnia) a byddinau jihadaidd a nad oedd yn rhan o fyddin swyddogol Tsietsnia, ar Ddagestan.

Cofeb dioddefwyr Argyfwng Gwystlon Beslan, ymosodiad terfysgol a gynlluniwyd gan Shamil Basaev yn 2004.[6]

Ar yr un pryd â goresgyniad tiriogaeth Dagestan, cynhaliwyd cyfres o ymosodiadau bom mewn rhai tai ym Moscfa a Folgodonsc ac mewn nhref yn Nagestan, Bujnaksk. Ar 4 Medi 1999, roedd un o’r ymosodiadau hyn ar adeilad a oedd yn gartref i deuluoedd plismyn Rwsieg. Roedd yr ymosodiadau, a barhaodd am y pythefnos nesaf, wedi lladd cyfanswm o 362 o fob[7] l a anafu mwy na 1000.[8] Cyhuddodd awdurdodau Rwsieg, llywodraeth Boris Yeltsin ar y pryd, ymwahanwyr Tsietsniaidd am yr ymosodiadau.[9]

Fodd bynnag, honnodd rhai gwleidyddion proffil uchel yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Seneddwr John McCain, fod yr ymosodiadau wedi’u paratoi gan wasanaethau cudd Rwsieg (yr FSB yn benodol) gyda’r nod o ryddhau ymgyrch yn erbyn yr ymwahanwyr Tsietsniaid i gyfiawnhau y goresgyniad yn Tsietsnia ym 1994.[10] Cadarnhawyd yr honiadau hyn yn ddiweddarach gan gyn asiant cudd Rwseg, Aleksandr Litvinenko, yn y llyfr Blowing Up Russia: Terror From Within.[11] Ar 30 Medi 1999, dechreuodd lluoedd Rwsieg oresgyniad Chechnya, gan bron fwrw'r brifddinas Grozny i'r llawr.[12] Yn 2001, cyhoeddodd Maskhadov archddyfarniad yn ymestyn ei swyddfa fel arlywydd am flwyddyn arall. Fodd bynnag, ni lwyddodd i gymryd rhan yn etholiadau arlywyddol 2003, o gofio bod y pleidiau ymwahanol wedi eu gwahardd o'r weriniaeth o dan y reolaeth y Rwsiaid. Hefyd roedd e wedi'i gyhuddo o fod yn rhan o luoedd ymwahanol. Gorfodwyd Maskhadov i encilio i'r mynyddoedd fel canlyniad i hyn.

Bu laddwyd Aslan Maskhadov gan wasanaethau Rwsieg ar 9 Mawrth 2005, yna daeth arweinydd newydd i'r gwahanyddion, Abdul Halim Sadulayev. Yn 2005 roedd ef wedi i ddiswyddo hen weinidogion diweddar Maskhadov, gan ddisodli nhw gyda ffigurau mwy eithafol fel Shamil Basayev. Ar 17 Mehefin 2006, lladdodd milwyr arbennig Rwsieg Sadulayev ac ar 9 Gorffennaf 2006, fe laddwyd Shamil Basayev; oherwydd ei troseddau terfysgol.[13] Ar 16 Ebrill 2009, cyhoeddwyd bod y gweithrediadau yn erbyn terfysgaeth yn Tsietsnia gan y lywodraeth Rwsieg wedi cael ei chau yn swyddogol a'u trosglwyddo i lywodraeth Tsietsnia yn llawn.[14]

Akhmad Kadyrov gyda Vladimir Putin.

Y Weriniaeth Tsietsniaidd ar ôl y rhyfel[golygu | golygu cod]

Mewn etholiad dan oruchwyliaeth ryngwladol ar 5 Hydref 2003, etholwyd y cyn arweinydd crefyddol ymwahanol (mwffti) Akhmad Kadyrov, yn arlywydd gydag 83 y cant o'r bleidlais.

Cafodd Akhmad Kadyrov ei lofruddio yn stadiwm pêl-droed Grozny ar Fai 9, 2004 gan fom a blannwyd o dan lwyfan a daliodd lawer o unigolion pwysig arno. Cafodd ei danio yn ystod gorymdaith, ac ar ôl y digwyddiad, enwyd Sergey Abramov yn brif weinidog y weriniaeth dros dro. Fodd bynnag, mae Ramzan Kadyrov (mab Akhmad Kadyrov) wedi bod yn Brif Weinidog er 2005, ac fe’i henwyd yn Arlywydd yn 2007.

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Menywon Tsietsnieg yn gweddio

Mae'r mwyafrif o Tsietsniaid yn credu yn Islam Swffi; fel canlyniad o fod yn rhan o'r Ymerodraeth Ottomanaidd.[15]

Yr ieithoedd a ddefnyddir yn y weriniaeth yw Tsietsnieg ac Rwsieg. Mae'r iaith Tsietsnieg yn perthyn i deulu iaith Vaynakh, neu'r teulu o ieithoedd Gogledd-canolog y Cawcasws.

Mae gan Tsietsnia un o'r poblogaethau ieuengaf yn Rwsia.[16]

Yn ôl Cyfrifiad 2010, poblogaeth y weriniaeth yw 1,268,989;[17] i fyny o 1,103,686 a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2002.

Grwpiau ethnig[golygu | golygu cod]

Grwpiau ethnig yn nhiriogaeth fodern y Weriniaeth Tsietsniaidd.[18]

Grwp

Ethnig

Cyfrifiad 1926 Cyfrifiad 1939 Cyfrifiad 1959 Cyfrifiad 1970 Cyfrifiad 1979 Cyfrifiad 1989 Cyfrifiad 2002 Cyfrifiad 2010 Cyfrifiad 2020
Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Nifer % Nifer %
Tsietsniaid 293,298 67.3% 360,889 58.0% 238,331 39.7% 499,962 54.7% 602,223 60.1% 715,306 66.0% 1,031,647 93.5% 1,206,551 95.3% 1,306,551 97.4%
Rwsiaid 103,271 23.5% 213,354 34.3% 296,794 49.4% 327,701 35.8% 307,079 30.6% 269,130 24.8% 40,645 3.7% 24,382 1.9% 16,382 0.9%
Cwmiciaid 2,217 0.5% 3,575 0,6% 6,865 0.8% 7,808 0.8% 9,591 0.9% 8,883 0.8% 12,221 1.0% 9,411 0.7%
Afariaid 830 0.2% 2,906 0.5% 4,196 0.5% 4,793 0.5% 6,035 0.6% 4,133 0.4% 4,864 0.4% 5,264 0.4%
Nogiaid 162 0.0% 1,302 0.2% 5,503 0.6% 6,079 0.6% 6,885 0.6% 3,572 0.3% 3,444 0.3% 3,102 0.2%
Ingwshetiaid 798 0.2% 4,338 0.7% 3,639 0.6% 14,543 1.6% 20,855 2.1% 25,136 2.3% 2,914 0.3% 1,296 0.1% 1,121 0.1%
Wcreiniaid 11,474 2.6% 8,614 1.4% 11,947 2.0% 11,608 1.3% 11,334 1.1% 11,884 1.1% 829 0.1% 13,716 1.1% 8,639 0.4%
Armeniaid 5,978 1.4% 8,396 1.3% 12,136 2.0% 13,948 1.5% 14,438 1.4% 14,666 1.4% 424 0.0%
Eraill 18,840 4.13% 18,646 3.0% 37,550 6.3% 30,057 3.3% 27,621 2.8% 25,800 2.4% 10,639 1.0%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "After 73 years, the memory of Stalin's deportation of Chechens and Ingush still haunts the survivors". OC Media (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-23.
  2. "The Ingush People". linguistics.berkeley.edu. Cyrchwyd 2020-12-23.
  3. Carlotta Gall (1998). Chechnya. Internet Archive. New York University Press. ISBN 978-0-8147-2963-2.
  4. "- The Washington Post". Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2020-12-23.
  5. "РОССИЯ-ЧЕЧНЯ: цепь ошибок и преступлений". web.archive.org. 2017-02-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-09. Cyrchwyd 2020-12-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  6. "CNN.com - Chechen 'claims Beslan attack' - Sep 17, 2004". edition.cnn.com. Cyrchwyd 2020-12-23.
  7. "6 Convicted in Russia Bombing That Killed 68 - The New York Times". web.archive.org. 2017-03-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-21. Cyrchwyd 2020-12-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  8. "CNN.com - Russia apartment bombs: Two jailed - Jan. 12, 2004". edition.cnn.com. Cyrchwyd 2020-12-23.
  9. "Chechen Terrorism (Russia, Chechnya, Separatist)". Council on Foreign Relations (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-23.
  10. "MCCAIN DECRIES "NEW AUTHORITARIANISM IN RUSSIA" - Press Releases - United States Senator John McCain". web.archive.org. 2017-06-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-18. Cyrchwyd 2020-12-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  11. "Britain's Observer newspaper suggests Russian secret service involvement in Moscow bombings". World Socialist Web Site (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-23.
  12. "Russia set to destroy Grozny". the Guardian (yn Saesneg). 1999-11-13. Cyrchwyd 2020-12-23.
  13. "Reign of Terror: An Interview with Shamil Basayev | UC Berkeley Library". www.lib.berkeley.edu. Cyrchwyd 2020-12-23.
  14. "Russia 'ends Chechnya operation'" (yn Saesneg). 2009-04-16. Cyrchwyd 2020-12-23.
  15. "Chechens in the Middle East: Between Original and Host Cultures". Belfer Center for Science and International Affairs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-23.
  16. "Chechnya - New World Encyclopedia". www.newworldencyclopedia.org. Cyrchwyd 2020-12-23.
  17. "ВПН-2010". rosstat.gov.ru. Cyrchwyd 2020-12-23.
  18. "НАСЕЛЕНИЕ ЧЕЧНИ". Ethno-kavkaz.narod.ru. Cyrchwyd 2013-04-19.