Ail Ryfel Tsietsnia

Oddi ar Wicipedia
Ail Ryfel Tsietsnia

Bedd torfol yn Tsietsnia
Dyddiad Cyfnod brwydrau: 26 Awst 1999 – Mai 2000
Cyfnod y gwrthryfel: Mehefin 2000 – 16 Ebrill 2009
Lleoliad Tsietsnia, Rwsia
Canlyniad
  • Adfer rheolaeth Ffederasiwn Rwsia dros Tsietsnia
  • Gwrthryfel yn parhau
Cydryfelwyr
Baner Rwsia Ffederasiwn Rwsia Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria
Gwrthryfelwyr Tsietsniaidd
Mujahideen tramor
Arweinwyr
Vladimir Putin
Igor Sergeyev
Viktor Kazantsev
Gennady Troshev
Vladimir Boldyrev
Alexander Baranov
Anatoliy Serdyukov
Sergei Ivanov
Nikolai Patrushev
Valentin Korabelnikov
Anatoly Kvashnin
Yuri Baluyevsky
Akhmad Kadyrov
Alu Alkhanov
Sulim Yamadayev
Ramzan Kadyrov
Sergei Abramov
Mukhu Aliyev
Aslan Maskhadov
Sheikh Abdul Halim
Dokka Umarov
Aslambek Abdulkhadziev
Ilyas Akhmadov
Turpal-Ali Atgeriyev
Akhmed Avtorkhanov
Nerth
80,000 yn Tsietsnia ym 1999, 45,000 i 70,000 yn Tsietsnia yn 2006. 22,000 ym 1999.
Anafusion a cholledion
4,472-7,503 16,299
Rhwng 25,000 a 50,000 o sifiliaid yn farw neu ar goll.

Gwrthdaro rhwng Ffederasiwn Rwsia a Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria o 1999 hyd 2009 oedd Ail Ryfel Tsietsnia. Dilynodd Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1994–6). Lansiwyd gan Rwsia ar 26 Awst 1999 fel ymateb i oresgyniad Dagestan gan y Frigâd Gadw'r Heddwch Islamaidd Ryngwladol (IIPB). Wedi i luoedd Rwsiaidd symud i mewn i Tsietsnia ar 1 Hydref, daeth ag annibyniaeth de facto Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria i ben. Enillodd y Rwsiaid reolaeth dros y brifddinas Grozny ar ôl gwarchae trwy gydol gaeaf 1999–2000. O tua mis Mehefin 2000 ymlaen, daeth y brwydrau confensiynol i ben a throdd natur y rhyfel yn wrthryfel herwfilwrol, a pharhaodd gwrthryfelwyr Tsietsniaidd i beri colledigion mawr i'r Rwsiaid am bron i ddegawd. Buont hefyd yn gyfrifol am ymosodiadau terfysgol yn Tsietsnia a gweddill Ffederasiwn Rwsia, a chyhuddir lluoedd Rwsiaidd a'r gwrthryfelwyr Tsietsniaidd yn gyfrifol am droseddau rhyfel. Daeth yr ymgyrch wrth-derfysgol yn Tsietsnia i ben yn swyddogol ar 16 Ebrill 2009, ond mae gwrthryfel yng Ngogledd y Cawcasws yn parhau.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Souleimanov, Emil. "Chechnya, Wahhabism and the Invasion of Dagestan", Middle East Review of International Affairs 9 (4) Rhagfyr 2005.