Gogledd y Cawcasws
Oddi ar Wicipedia
Adran ogleddol rhanbarth y Cawcasws rhwng Ewrop ac Asia yw Gogledd y Cawcasws. Yn wleidyddol mae'n cynnwys rhannau o Georgia ac Azerbaijan a rhannau o Dalaith Ffederal Ddeheuol Ffederasiwn Rwsia: Kray Krasnodar, Kray Stavropol', a'r gweriniaethau Adygea, Karachay-Cherkessia, Kabardino-Balkaria, Gogledd Ossetia-Alania, Ingushetia, Chechnya, a Dagestan.