Canolfan Masnach y Byd
Oddi ar Wicipedia
Cyfuniad o saith adeilad yn Ninas Efrog Newydd oedd Canolfan Masnach y Byd. Cynlluniwyd gan y pensaer Americanaidd-Japaniaidd Minoru Yamasaki. Roedd yn cynnwys 13.4 miliwn troedfedd sgwar o swyddfeydd. Y rhannau mwyaf enwog oedd y Ddau Dŵr (neu'r 'tyrau gefeilliol' y 'Twin Towers') oedd yn 110 llawr. Ar 11 Medi 2001, hedfanwyd dwy awyren yn fwriadol i fewn i'r ddau dŵr gan derfysgwyr. Syrthiodd y ddau gan ladd nifer o bobl.

