Osama bin Laden
| Osama bin Laden أسامة بن لادن |
|
|---|---|
Osama bin Laden |
|
| Ganwyd | Mawrth 10, 1957 Riyadh, Saudi Arabia |
| Bu farw | 1 Mai 2011 (54 oed) Abbottabad, Pakistan |
| Cenedligrwydd | Saudi Arabiaidd Heb ddinasyddiaeth (1994–2011)[1] |
| Crefydd | Wahhabi Sunni Islam |
| Yr oedd bin Laden mewn teyrngarwch ag Al-Qaeda, ac yr oedd yn gysylltiedig â'r Rhyfel Sofiet Afghanistan, a'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth: Rhyfel Afghanistan, a'r Rhyfel Gogledd Orllewin Pakistan | |
Terfysgwr Islamaidd a ystyrir yn sylfaenwr Al-Qaeda oedd Osama bin Mohammed bin Awad bin Laden (Arabeg: أسامة بن محمد بن عوض بن لادن , ʾUsāmah bin Muḥammad bin ʿAwaḍ bin Lādin; 10 Mawrth 1957 – 2 Mai 2011).
Ganed ef yn Riyadh, Saudi Arabia, yn aelod o deulu cyfoethog a dylanwadol bin Laden. Ym 1996 ac eto ym 1999 cyhoeddodd ef a nifer eraill ddwy fatwa, yn dweud y gellid lladd aelodau o luoedd arfog neu ddinasyddion yr Unol Daleithiau hyd nes iddynt dynnu eu lluoedd arfog o'r gwledydd Islamaidd a rhoi'r gorau i gefnogi Israel. Cred yr Unol Daleithiau iddo fod a rhan yn yr ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Dar es Salaam Tanzania a Nairobi, Kenya.
Credir yn gyffredinol mai Osama bin Laden ac Al-Qaeda fu'n gyfrifol am drefnu Ymosodiadau 11 Medi 2001 ar yr Unol Daleithiau, pan gipiwyd awyrennau a'u hedfan i mewn i Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a'r Pentagon yn Arlington, Virginia.
Marwolaeth[golygu]
Ar 1 Mai 2011, adroddodd Arlywydd Obama y lladdwyd bin Laden yn ystod gweithred filwrol yr Unol Daleithiau gan "dîm bychan o Americaniaid", mewn gweithred gudd yn Abbottabad Pakistan, 93 milltir (150 km) i'r gogledd o Islamabad,[2] a chadarnhaodd yr hyn a ddywedwyd gan swyddogion yr Unol Daleithiau i'r cyfryngau yn gynharach.[3] Drwy ddefnyddio corff bin Laden, a'i gymharu â samplau DNA ei chwaer, cadarnhawyd mai bin Laden ydoedd.[4] Derbyniwyd y corff gan fyddin yr Unol Daleithiau a chafodd ei gladdu yn y môr.[5]
Yn ôl yr Arlywydd Obama, cynorthwyodd llywodraeth Pakistan hefyd yn y weithred o'i ddal.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ (Saesneg) Dan Ackman (14 Medi 2001). The Cost Of Being Osama Bin Laden. Forbes. Adalwyd ar 17 Mawrth 2012.
- ↑ Osama bin Laden is dead, Obama announces , The Guardian, Nodyn:DyddiadFformat.
- ↑ Osama bin Laden, the face of terror, killed in Pakistan , CNN.com, The Cable News Network, Nodyn:DyddiadFformat. Cyrchwyd ar Nodyn:DyddiadFformat.
- ↑ Osama bin Laden Killed; ID Confirmed by DNA Testing. ABC News (1 Mai 2011).
- ↑ Osama bin Laden buried at sea after being killed in US raid in Pakistan Metro.co.uk Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2011