Gomer fab Jaffeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Gomer (gwahaniaethu).

Cymeriad yn y Beibl y cyfeirir ato fel mab hynaf Jaffeth (hefyd 'Iaffeth' neu 'Japheth'), ac felly yn un o ddisgynyddion Noa, oedd Gomer fab Jaffeth neu Gomer (Hebraeg: גֹּמֶר, Gómer). Roedd yn dad i Ascenas, Riffath, a Thogarma, yn ôl yr Hen Destament (Llyfr Genesis x. 2, 3; Llyfr Cyntaf y Cronicl i. 5, 6).

Cyfeirir at Gomer, ond fel enw sy'n golygu "y llwyth/teulu cyfan", yn Llyfr Eseciel xxxviii. 6 fel cyngreiriad Gog, pennaeth gwlad Magog.

Mae'r hanesydd Persiaidd Muhammad ibn Jarir al-Tabari (c. 915) yn cofnodi traddodiad Pesiaidd fod Gomer wedi byw i fod yn 1000 oed, yn hirach na neb arall heblaw Nimrod.

Gomer a'r Cymry[golygu]

Cysylltid enw Gomer â'r Cimeriaid yn ddiweddarach, pobl hynafol a drigai ar wastadeddau Ewrasia ac a gofnodir yn ymosod ar Ymerodraeth Newydd Assyria ar ddiwedd yr 8fed ganrif CC. Roedd yr hanesydd Groegaidd Josephus yn lleoli Gomer a'r "Gomeriaid" yn ardal Galatia yn Asia Leiaf (Hynafiaethau'r Iddewon, I:6). Yr oedd Nennius (dechrau'r 9fed ganrif) yn honni mai'r Gomer Beiblaidd oedd cyndad y Galiaid hefyd, gan ddilyn Josephus, efallai. Gwyddys erbyn heddiw fod yr enw "Galatia" yn tarddu, yn ôl pob tebyg, o'r ffaith fod cangen o'r Galiaid Celtaidd wedi ymsefydlu yno.

Daeth Gomer yn bwysig ym meddylfryd y Cymry yn y 18fed a'r 19eg ganrif, am i'r hynafiaethydd Theophilus Evans honni yn ei gyfrol ddylanwadol Drych y Prif Oesoedd (1716 a 1740), ar seiliau ieithyddol gwagsaw, fod y gair 'Cymry' yn tarddu o 'Gomer' a 'Cimeriaid'. Gellir olrhain y syniad i waith y William Camden (Britannia, 1586), & Dr John Davies o Fallwyd yn yr 17eg ganrif. Cyhoeddodd Davies fod cysylltiad ieithyddol rhwng y Gymraeg a'r Hebraeg. Yr oedd ysgolheigion Cymreig yn gwybod hefyd am waith Nennius (gweler uchod). Yn 1703, cyhoeddodd y Llydäwr Paul Yves Pezron ei lyfr enwog Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, autrement appelée Gaulois. Cafwyd cyfieithiad Saesneg yn 1706 fel Antiquities of Nations a argraffwyd sawl gwaith ar ôl hynny. Dyma un o brif ffynonellau Theophilus Evans, sy'n cyfeirio sawl gwaith at Pezron gydag edmygedd mawr. Yn ôl damcaniaeth Pezron, y Gymraeg oedd iaith Gomer fab Jaffeth ac roedd y Cymry a'r Llydawyr yn ddisgynyddion iddo. Honodd hefyd fod y Groegiaid gynt yn adnabod y "Gomeriaid" fel y Titaniaid.[1] Ar sail gwaith Pezron mae awdur y Drych yn cyhoeddi'n groyw, ar ôl adrodd hanes cymysgu'r ieithoedd ar ôl cwymp Tŵr Babel,

A phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwn[n]w, ond Gomer, mab hynaf Japheth ab Noa ab Lamech (... ) ab Adda ap Duw. Dyma i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gymry, cyfuwch a'r un a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyrraedd ato, pe baem ni eu hepil yn well o hyn[n]y.[2]

Elfen arall a ategai'r ddamcaniaeth am Gomer fel un o gyndeidiau'r Cymry oedd dylanwad gwaith Sieffre o Fynwy, a honnai fod y Cymry yn ddisgynyddion i'r arwr Brutus o Gaerdroia, dinas hynafol yng ngorllewin Asia Leiaf.

Cydnabyddir heddiw nad oes sail i'r traddodiadau hynafiaethol hyn: yn un peth mae ieithyddwyr wedi profi fod y gair Cymro (felly hefyd Cymry, Cymru, Cymraeg ayyb) yn tarddu o'r gair Brythoneg *Combrogos[3] yn hytrach na Gomer/Cimeriaid. Ond parhaodd y syniadau i ddylanwadu ar feddylfryd a dychymyg y Cymry, ac eraill, am amser hir. Daeth 'Gomer' yn enw personol poblogaidd yn y 19eg ganrif, fel y tyst enw barddol y Parch. Joseph Harris (Gomer), a bachwyd geiriau newydd fel 'Gomeraeg' (Cymraeg) a 'Gomeriad' (Cymro).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Glenda Carr, William Owen Pughe (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983), tudalennau 77, 183.
  2. Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd, pennod 8,9.
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 1, tud. 770

Gweler hefyd[golygu]