Harri Webb

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Eingl-Gymreig, gweriniaethwr, a chenedlaetholwr oedd Harri Webb (7 Medi 192031 Rhagfyr 1994).

Ganwyd Harri ar y 7fed o Fedi 1920 yn Abertawe, yn 45 Heol Ty Coch ar gyrion y dref. Yn 1938 enillodd ysgoloriaeth yr awdurdod addysg lleol, ac aeth i brifysgol Rhydychen i astudio ieithoedd, gan arbenigo yn Ffrangeg,Sbaeneg a Phortwieg.

Bu yn aelod o Fudiad Gweriniaethwyr Cymru, ac yna o'r Blaid Lafur. Ond gadawodd y blaid wedi ei siomi gan ei hymateb i hunanlywodraeth i Gymru a'i gwrth-Gymreigrwydd ac ymunodd a Phlaid Cymru yn 1958.

Ni welai Harri Webb ddim gwahanaieth rhwng swyddogaeth gwleidyddiaeth a llenyddiaeth. Ysgrifennai yn bennaf yn Saesneg ond daeth ei gerdd Colli Iaith a ganwyd gyntaf gan Heather Jones yn rhan o'r gynhysgaeth Gymraeg.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • The Stone Face and other poems, gol. M. Stephens (2005)
  • Looking Up England's Arsehole: Patriotic Poems and Boozy Ballads, gol. M. Stephens (2000)
  • A Militant Muse: Selected Literary Journalism (1998)
  • No Halfway House: selected political journalism 1950-1977, gol. M. Stephens (1997)
  • Collected Poems, gol. M. Stephens (1995)
  • Tales from Wales (1984)
  • Poems and Points (1983)
  • Rampage and Revel (1977)
  • A Crown for Branwen (1974)
  • The Green Desert: collected poems 1950-1969 (1969; repr. 1976)
  • Our National Anthem (1964)
  • Triad (gyda M. Stephens, P. Griffith) (1963)
  • Dic Penderyn and the Merthyr Upsrising of 1831 (1956)


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.