Nodyn:Pigion/Wythnos 23
Pigion
Pont grog yw Pont Hafren sy'n rhychwantu Afon Hafren rhwng Sir Fynwy yn Ne Cymru a De Swydd Gaerloyw yn Lloegr. Mae hi'n cludo'r draffordd M48. Y bont oedd y groesfan wreiddiol rhwng Cymru a Lloegr, oedd yn cludo'r draffordd M4, cyn agoriad yr Ail Groesfan Hafren. Cymerwyd pum mlynedd i'w chodi gan gostio £8 miliwn. Agorwyd y bont ar 8 Medi 1966 gan y frenhines Elisabeth II a gyfeiriodd ati fel dechrau cyfnod economaidd newydd i dde Cymru. Rhoddwyd statws rhestredig Gradd I i'r bont ym 1998. I ddathlu agoriad y bont, ysgrifennodd y bardd Eingl-Gymreig Harri Webb bennill ddychanol:
|
Erthyglau dewis
|