Jiwtiaid

Oddi ar Wicipedia
Jiwtiaid
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
MathGermaniaid Edit this on Wikidata
GwladwriaethDenmarc, yr Almaen Edit this on Wikidata
Den jyske halvøya (Penrhyn Jutland) gyda De Schleswig (brown), yn hanesyddol yn rhan o Jylland, a Holstein (melyn), nid yn rhan o Jutland, ond yn rhan o benrhyn Jutland.

Llwyth Germanaidd a ymfudodd i Brydain Fawr yn y 5g oedd y Jiwtiaid. Yr Eingl (neu Angliaid), y Sacsoniaid (neu Saeson), a'r Jiwtiaid oedd y tri llwyth o ogledd-orllewin tir mawr Ewrop a oresgynnodd Brydain yn sgil ymadawiad y Rhufeiniaid ac ymsefydlodd yn y wlad a elwir heddiw'n Lloegr. Nid oes cofnod o hanes y Jiwtiaid ar y Cyfandir, ac mae union darddiad y llwyth hwn yn ansicr, ond mae tystiolaeth sylweddol i ddangos mai Llychlyn oedd eu mamwlad, gorynys Jylland mae'n debyg. Mae'n bosib iddynt ffoi oddi yno yn sgil goresgyniad gan y Daniaid, a symud i arfordir Ffrisia cyn croesi Geneufor De Môr y Gogledd i dde-ddwyrain Lloegr.

Yn ôl yr Hybarch Beda yn ei Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum, a ysgrifennwyd yn nechrau'r 8g, ymsefydlodd y Jiwtiaid yng Nghaint, Ynys Wyth, a rhannau o Hampshire. O ran archaeoleg, mae llawer yn llai o arteffactau Jiwtaidd nag olion yr Eingl a'r Sacsoniaid.[1]

Siaradodd y Jiwtiaid iaith Germanaidd, ond nid yw'n sicr os oedd Jiwteg yn debycach i Gyn-Norseg neu i'r ieithoedd Eingl-Ffrisiaidd (Ingfaeonig), ac os oedd yn rhan o gontinwwm ag Angleg a Sacsoneg. Beth bynnag, câi Jiwteg ei chymhathu â thafodieithoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gan ddatblygu'r iaith Hen Saesneg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barbara Yorke, Kings and Kingdoms of Early Anglo-Saxon England (Llundain: Routledge, 1990), tt. 5–6,