Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum
Oddi ar Wicipedia
Tudalen o destun cynnar o hanes Beda
Ysgrifennwyd yr Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum yn yr iaith Ladin gan yr hanesydd a mynach o Sais Beda, efallai yn negawdau cyntaf yr 8fed ganrif.
Mae'r llyfr yn llawn o ffeithiau am hanes cynnar Lloegr yn y cyfnod pan ymledai'r teyrnasoedd Eingl-Seisnig gan wrthdaro â'r teyrnasoedd Brythonaidd, sef terynasoedd yr Hen Ogledd, Cernyw, Dyfnaint a Chymru. Ond er ei fod yn hanes yr eglwys yn Lloegr (cangen o eglwys Rufain), ei brif bwnc mewn gwirionedd yw'r gwrthdaro rhwng yr eglwys honno a'r eglwysi Celtaidd annibynnol oedd yn heresiaid yn ôl ei awdur.

