Nodyn:Pigion
Oddi ar Wicipedia
|
Pigion
Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18fed ganrif, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. Penrhyn a Dinorwig oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd, a Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd y gloddfa lechi fwyaf yn y byd. Defnyddir llechi yn bennaf ar doeau, ond mae darnau mwy trwchus o lechfaen yn cael eu defnyddio ar gyfer lloriau, byrddau gwaith a beddfeini ymhlith pethau eraill.
Hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cynhyrchid y llechi gan griwiau bach o chwarelwyr oedd yn talu i’r tirfeddiannwr am gael defnyddio’r chwareli. Byddent yn cario’r llechi i’r porthladdoedd ar gefnau ceffylau neu mewn certi, ac yna yn eu hallforio i Loegr, Iwerddon ac weithiau Ffrainc. Tua diwedd y ganrif, dechreuodd y tirfeddianwyr mawr weithio’r chwareli eu hunain, ar raddfa fwy. Wedi i’r llywodraeth wneud i ffwrdd â'r dreth ar lechi yn 1831, tyfodd y diwydiant yn gyflym a datblygwyd rheilffyrdd cul i gario’r llechi i’r porthladdoedd. mwy... |
Erthyglau dewis
De facto - Coctêl - Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama - Llanisien - Maes Awyr Dong Hoi - Moesia - Llys Cyfiawnder Rhyngwladol - Sorghwm - Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - Gweinyddiaeth Ganolog Tibet - Ysgrifen Ymerodres Cixi - Brenhinllin y Ptolemïaid - Ethnoleg - Ynni niwclar - Diwydiant cynradd - Gwallter Brut - Krishna - Chihuahua - Taoaeth - Clarissa Explains It All - Rasio ceffylau - Pencampwriaeth Ewrop Pêl-droed 2008 - Cymry Asiaidd - Ysgol Goronwy Owen - Arwystli Uwch Coed - Y Gaer - X-Men (ffilm) - Illyria - Swyddfa Ystadegau Gwladol - Afon Waal - Penteulu - Cadwgan ap Bleddyn Elizabeth Spriggs · Anthony Crockett · Mick Hill · George Carlin |

