Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969

Oddi ar Wicipedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969
Dyddiad(au)
Dyddiad29 Mawrth 1969
Cynhyrchiad
Lleoliad
CyflwynyddionLaurita Valenzuela
DarlledwrTelevisión Española (TVE)
Cyfarwyddwyd ganRamón Díez
Cystadleuwyr
Nifer16
Dangosiad cyntafDim
DychweliadauDim
Tynnu'n ôlBaner Awstria Awstria
Canlyniadau
System pleidleisioRoedd beirniaid deg aelod gan bob wlad yn rhannu deg pwynt ymhlith eu hoff caneuon.
Cân fuddugol
◀1968   Cystadleuaeth Cân Eurovision   1970▶

Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969 oedd y 14eg Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ym Madrid, Sbaen wedi i'r wlad ennill y gystadleuaeth 1968 gyda'r gân "La La La" gan Massiel.

Mae'r gystadleuaeth 1969 yn adnabyddus am ei phedwar enillydd, sef Sbaen gyda "Vivo cantando" gan Salomé, Y Deyrnas Unedig gyda "Boom Bang-a-Bang" gan Lulu, Yr Iseldiroedd gyda "De troubadour" gan Lenny Kuhr, a Ffrainc gydag "Un jour, un enfant" gan Frida Boccara. Nid oedd rheolau'r gystadleuaeth ar y pryd yn ystyried y posibilrwydd o dorri cyfartaledd, felly penderfynwyd bod y pedair gwlad yn gyd-ennillwyr.[1] Ni fydd angen torri cyfartaledd eto hyd at y gystadleuaeth 1991.

Enillodd Ffrainc am y pedwerydd tro, a oedd yn record ar y pryd. Enillodd yr Iseldiroedd am y drydedd tro, gyda Sbaen a'r Deyrnas Unedig yn ennill am yr eildro wrth i Sbaen fod y wlad gyntaf i ennill dau Eurovision yn olynol.

Cystadleuwyr[golygu | golygu cod]

Cymerodd 16 gwlad ran yn y gystadleuaeth ond bu Awstria yn absennol.[1] Nid oedd unrhyw newidiadau eraill o ran gwledydd yn cystadlu am y tro cyntaf, tynnu'n ôl neu ddychwelyd i'r gystadleuaeth.

Cymru[golygu | golygu cod]

Roedd yna ymgais gan BBC Cymru i gystadlu yn y gystadleuaeth o dan faner Cymru gyda chân Gymraeg. Fe ddatblygwyd Cân i Gymru i ddewis y gân a pherfformiwr ar gyfer Eurovision, ond yn anffodus penderfynwyd nad oedd modd i'r BBC anfon dau berfformiwr i'r gystadleuaeth.[2]

Ennillodd Margaret Williams Gân i Gymru 1969 gyda'r gân "Y Cwilt Cymreig".

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Canlyniadau'r Gystadleuaeth Cân Eurovision 1969[1]
Trefn Gwlad Artist Cân Iaith Safle Pwyntiau
01 Baner Iwgoslafia Iwgoslafia Ivan "Pozdrav svijetu" Serbo-Croateg 13 5
02 Baner Lwcsembwrg Lwcsembwrg Romuald "Catherine" Ffrangeg 11 7
03 Baner Sbaen Sbaen Salomé "Vivo cantando" Sbaeneg 1 18
04 Baner Monaco Monaco Jean Jacques "Maman, Maman" Ffrangeg 6 11
05 Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon Muriel Day "The Wages of Love" Saesneg 7 10
06 Baner Yr Eidal Yr Eidal Iva Zanicchi "Due grosse lacrime bianche" Eidaleg 13 5
07 Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig Lulu "Boom Bang-a-Bang" Saesneg 1 18
08 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Lenny Kuhr "De troubadour" Iseldireg 1 18
09 Baner Sweden Sweden Tommy Körberg "Judy, min vän" Swedeg 9 8
10 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Louis Neefs "Jennifer Jennings" Iseldireg 7 10
11 Baner Y Swistir Y Swistir Paola del Medico "Bonjour, Bonjour" Almaeneg 5 13
12 Baner Norwy Norwy Kirsti Sparboe "Oj, oj, oj, så glad jeg skal bli" Norwyeg 16 1
13 Baner Yr Almaen Yr Almaen Siw Malmkvist "Primaballerina" Almaeneg 9 8
14 Baner Ffrainc Ffrainc Frida Boccara "Un jour, un enfant" Ffrangeg 1 18
15 Baner Portiwgal Portiwgal Simone de Oliveira "Desfolhada portuguesa" Portiwgaleg 15 4
16 Baner Y Ffindir Y Ffindir Jarkko a Laura "Kuin silloin ennen" Ffinneg 12 6

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Madrid 1969". eurovision.tv. Cyrchwyd 2024-04-16.
  2. "Can i Gymru". ukgameshows.com. Cyrchwyd 2024-04-16.