Cân i Gymru
| Cân i Gymru | |
|---|---|
| Gwlad/gwladwriaeth | |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Rhediad cyntaf yn | 1969 |
| Cysylltiadau allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Ddewi. Cyflwynwyd am y tro cyntaf ym 1969 pan oedd BBC Cymru eisiau cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision. Fodd bynnag, dywedodd y BBC mai dim ond un gân y gallai'r Deyrnas Unedig gyflwyno yn y gystadleuaeth.[1] Mae wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers hynny, heblaw am 1973. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gystadleuthau tebyg, dim ond cerddorion proffesiynol caiff eu gwahodd i gystadlu. Ni all y cyhoedd gystadlu.
Caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Pe digwydd i ddwy gân gael yr un nifer o bleidleisiau, mae panel o arbenigwyr yn dewis y gân fuddugol. Rhoddir gwobr o £10,000 i'r enillydd ac ânt ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Gŵyl Ban Geltaidd. Fodd bynnag, ni chaiff y gystadleuaeth hon ei darlledu ar y teledu ac o ganlyniad nid yw llawer o Gymry yn ymwybodol o bwy sy'n ennill.
Rhestr enillwyr [golygu]
| Blwyddyn | Cân[2] | Perfformiwr/perfformwyr |
|---|---|---|
| 1969 | Y Cwilt Cymreig | Margaret Williams |
| 1970 | Dydd o Haf | Y Canolwyr |
| 1971 | Nwy yn y Nen | Eleri Llwyd |
| 1972 | Pan Ddaw'r Dydd | Heather Jones |
| Dim cystadleuaeth | ||
| 1974 | I Gael Cymru'n Gymru Rydd | Iris Williams |
| 1975 | Caledfwlch | Brân (grwp) |
| 1976 | Y Llanc Glas Lygad | Rhian Rowe |
| 1977 | Dafydd ap Gwilym | Cawl Sefin |
| 1978 | Angel Ble Wyt Ti | Delwyn Siôn a Brân |
| 1979 | Ni Welaf yr Haf | Pererin (grwp) |
| 1980 | Golau Tan Gwmwl | Plethyn |
| 1981 | Dechrau Dyfodol | Beca |
| 1982 | Nid Llwynog Oedd yr Haul | Caryl Parry Jones a Bando |
| 1983 | Popeth Ond Y Gwir | Linda Healy a Cleif Harpwood |
| 1984 | Y Cwm | Geraint Griffiths |
| 1985 | Ceiliog y Gwynt | Bwchadanas |
| 1986 | Be Ddylwn i Ddweud | Eirlys Parri |
| 1987 | Gloria Tyrd Adre | Eryr Wen |
| 1988 | Can Wini | Manon Llwyd |
| 1989 | Twll Triongl | Hefin Huws |
| 1990 | Gwlad y Rasta Gwyn | Sobin a'r Smaeliaid |
| 1991 | Yr Un Hen Lle | Neil Williams a'r Band |
| 1992 | Dal i Gredu | Eifion Williams |
| 1993 | Y Cam Nesa | Paul Gregory |
| 1994 | Rhyw Ddydd | Geraint Griffiths |
| 1995 | Yr Ynys Werdd | Gwenda Owen |
| 1996 | Cerrig yr Afon | Iwcs a Doyle |
| 1997 | Un Funud Fach | Bryn Fôn |
| 1998 | Rho Dy Law | Arwel Wyn Roberts |
| 1999 | Torri'n Rhydd | Steffan Rhys Williams |
| 2000 | Cae o Yd | Martin Beattie |
| 2001 | Dagrau Ddoe | Geinor Haf |
| 2002 | Harbwr Diogel | Elin Fflur |
| 2003 | Oes Lle i Mi | Non Parry & Steffan Rhys Williams |
| 2004 | Dagrau Tawel | Rhian Mair Lewis |
| 2005 | Mi Glywais | Rhydian Bowen Philips |
| 2006 | Llii'r Nos | Ryland Teifi |
| 2007 | Blwyddyn Mas | Einir Dafydd |
| 2008 | Atgofion[2] | Aled Myrddin |
| 2009 | Gofidiau | Elfed Morgan Morris |
| 2010 | Bws i'r Lleuad | Tomos Wyn |
| 2011 | Rhywun yn Rhywle | Tesni Jones |
| 2012 | Braf yw Cael Byw | Gai Toms |
| 2013 | Mynd I Gorwen Hefo Alys | Jessop a'r Sgweiri |
Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Can i Gymru Gwefan UKGameshows. Adalwyd ar 05-12-2010
- ↑ 2.0 2.1 Archif Cân i Gymru ar S4C
Dolenni allanol [golygu]
- Cân i Gymru ar wefan S4C
|
|||||