Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009
| Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 |
|
|---|---|
![]() |
|
| Cyn-derfynol 1 | 12 Mai 2009 |
| Cyn-derfynol 2 | 14 Mai 2009 |
| Terfynol | 16 Mai 2009 |
| Cyflwynyddion | Cyn-derfynol: Natalia Vodianova Andrey Malahov Terfynol: Ivan Urgant Alsou Green Room: Dmitry Shepelev |
| Cyfarwyddwr | Andrey Boltenko |
| Gwesteiwr | |
| Lleoliad | Arena Dan-do Olympaidd, Moscow, Rwsia |
| Cân fuddugol | "Fairytale" |
| Ymgeiswyr | 42 |
| Debut | Dim |
| Dychweliad (au) | |
| Ciliad (au) | |
| Nul points | Gweriniaeth Tsiec (yn y rownd cyn-derfynol gyntaf) |
| Agoriad | Cyn-derfynol 1: The Tolmachevy Twins Cyn-derfynol 2: Cerddorfa gwerin "Nel blu dipinto di blu", "Waterloo", "Ding-A-Dong", "Diva", "Believe" Terfynol: Terem Quartet, Cirque du Soleil perfformiad, Dima Bilan â "Believe" |
| Cyfwng | Cyn-derfynol 1: Alexandrov Ensemble a t.A.T.u â "Not Gonna Get Us" Cyn-derfynol 2: Igor Moiseyev Ensemble Terfynol: Fuerza Bruta |
| Cystadleuaeth Cân Eurovision | |
| ◄2008 |
|
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 yw'r 54fed Cystadleuaeth Cân Eurovision, a chaiff ei gynnal rhwng y 12fed a'r 16eg o Fai, 2009 yn Arena Dan-do Olympaidd Moscow, Rwsia. Gwelwyd newud yn y drefn pleidleisio yn 2009, wrth i reithgorau cenedlaethol gael eu hail-gyflwyno yn ogystal â phleidlais teleffon y cyhoedd. Cymrodd 42 gwlad rhan yn y gystadleuaeth; cyhoeddodd Slofacia y byddent yn dychwelyd i'r gystadleuaeth tra bod San Marino wedi tynnu allan am resymau ariannol. Yn wreiddiol, cyhoeddodd Latfia a Georgia eu bod yn bwriadu tynnu allan hefyd, ond yn ddiweddarach nododd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (UDE) y byddent yn cymryd rhan. Fodd bynnag, yn ddiweddarach tynnodd Georgia allan o'r gystadleuaeth ar ôl i'r EDE ddatgan fod eu cân wedi torri rheolau'r gystadleuaeth.
Cynnwys |
Fformat [golygu]
Ar y 20ain o Ionawr 2009, tynnwyd enwau allan o het i weld pa wledydd a fyddai'n ymddangos yn y rownd gyn-derfynol cyntaf neu'r ail. Rhannwyd gwledydd i mewn i chwech pot yn unol a phatrymau pleidleisio cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r chwech pot i benderfynu pa wledydd fyddai yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a phwy fyddai yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd y bydda'r Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio yn y rownd gyn-derfynol gyntaf, tra bod Rwsia a Ffrainc yn pleidleisio yn yr ail rownd gyn-derfynol. Tynnwyd yr enwau allan i benderfynu trefn y rowndiau cyn-derfynol a'r rownd derfynol a threfn y pleidleisio ar yr 16 o Fawrth 2009.
| Pot 1 | Pot 2 | Pot 3 |
|---|---|---|
| Pot 4 | Pot 5 | Pot 6 |
Canlyniadau [golygu]
Gwledydd y rownd cyn-derfynol [golygu]
Cymrodd 37 gwlad ran mewn un o ddwy rownd cyn -derfynol y gystadleuaeth. Tynnwyd yr enwau allan o'r het ar gyfer y rownd cyn-derfynol ar y 30ain o Ionawr, 2009 tra bod y rhestr o drefn y gwledydd wedi digwydd ar yr 16eg o Fawrth, 2009.
Y rownd cyn-derfynol gyntaf [golygu]
- Digwyddodd y rownd cyn-derfynol gyntaf ym Moscow ar y 12fed o Fai.
- Aeth y naw gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ar y ffôn i'r rownd derfynol ar yr 16eg o Fai.
- Penderfynodd y rheithgor ar y degfed gwlad i fynd trwyddo.
- Pleidleisiodd y Deyrnas Unedig a'r Almaen yn y bleidlais hon.
- Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
- Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan y rheithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.
Yr ail rownd cyn-derfynol [golygu]
- Digwyddodd yr ail rownd cyn-derfynol ym Moscow ar y 14eg o Fai.
- Pleidleisiodd Ffrainc a Rwsia yn y rownd cyn-derfynol hwn. Roedd Sbaen fod pleidleisio yn y rownd cyn-derfynol hwn ond yn sgîl camgymeriadau amseru gyda TVE, darlledwyd y rownd cyn-derfynol yn hwyr ac nid oedd pleidleiswyr Sbaen yn medru pleidleisio.
- Dengys y lliw peach gwledydd a aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
- Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan reithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.
Y Rownd Derfynol [golygu]
Digwyddodd y rownd derfynol ym Moscow ar yr 16eg o Fai am 23:00 (amser Moscow) (19:00 UTC). Cyflwynwyd y sioe gan Alsou ac Ivan Urgant. Y gwledydd a berfformiodd yn y rownd derfynol oedd:
- Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
- Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Rwsia.
- Y naw gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn yn y rownd cyn-derfynol cyntaf.
- Y naw gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn yn yr ail rownd cyn-derfynol.
- Dewis y rheithgor o'r ddau rownd cyn-derfynol
- Dengys y wlad a enillodd y gystadleuaeth mewn lliw peach.
