Jade Ewen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ewen ,Nghystadleuaeth Cân Eurovision

Mae Jade Almarie Louise Ewen (ganed 24 Ionawr 1988 yn Llundain) yn gantores ac actores Seisnig. Dechreuodd Ewen ei gyrfa gyda rôl Nala yn y sioe gerdd The Lion King yn West End Llundain. Ers hynny, mae Ewen wedi gweithio ar nifer o gyfresi teledu yn y DU ac Awstralia. Yn 2005 ymunodd Ewen â'r grŵp R&B, "Trinity Stone" a gafodd ychydig o lwyddiant yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a Rwsia. Ar y 31ain o Ionawr, 2009, dewiswyd Ewen i ganu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision a pherfformiodd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2009 ym Moscow ar yr 16eg o Fai. Daeth y Deyrnas Unedig yn bumed, a thrwy wneud hynny, Ewen sydd wedi gwneud orau ar ran y DU yn yr Eurovision ers 2002. Yn 2009, disodlodd Ewen Keisha Buchanan yn y grŵp Sugababes.

Disgograffiaeth[golygu]

Blwyddyn Sengl Man uchaf yn y siart Albwm
DU IWE RWS
2008 "Got You" - - - Sengl yn unig
2009 "It's My Time" 50 - 264 I'w gyhoeddi

Ffilmograffiaeth[golygu]

Gweler hefyd[golygu]